Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ildiwyd dros 700 o gyllyll ledled Gogledd Cymru fel rhan o Ymgyrch Sceptre, wythnos genedlaethol o weithredu yn erbyn troseddau cyllyll.
Yn ogystal ag annog pobl i gael gwared ar eu cyllyll diangen yn ddiogel, roedd gweithgareddau eraill yn cynnwys ymweld ag ysgolion a cholegau ledled y rhanbarth i amlygu risgiau a chanlyniadau cario cyllell i ddisgyblion a myfyrwyr, ymweld â mân-werthwyr a chasglu arfau.
Wedi'i chydlynu gan Gyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion Heddlu (CCPSH), roedd Ymgyrch Sceptre yn wythnos genedlaethol i weithredu a wnaeth redeg o 14 – 20 Tachwedd, gan ddod â 43 heddlu a'r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig ynghyd am gyfnod cydlynol dwys o ymdrin â throsedd cyllyll, cyfrannwr mawr i drosedd treisgar yn y DU.
Casglwyd 712 o gyllyll ac eitemau llafnog o finiau amnest ildio cyllyll a rhai canolfannau ailgylchu lle pobl gael gwared ar gyllyll a llafnau'n ddiogel.
Dywedodd yr Arolygydd Wes Williams o Heddlu Gogledd Cymru: "Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi ymrwymo'n llwyr i leihau bygythiad trosedd cyllyll o fewn ein cymunedau a lleihau'r nifer o ddioddefwyr trosedd cyllyll.
"Rhaid i ni sicrhau ein bod yn gwneud popeth y gallwn ei wneud er mwyn atgyfnerthu'r neges fod cario cyllell yn annerbyniol ac ni ddaw daioni o gario un.
“Mae bob achos sy'n cynnwys cyllell â chanlyniadau i bawb sydd ynghlwm. Mae hon yn broblem rydym yn ei chymryd yn hynod ddifrifol.
"Fel erioed, mae gan y cyhoedd ran bwysig iawn i'w chwarae wrth gynorthwyo cadw cyllyll oddi ar ein strydoedd. Gallent ein cynorthwyo ni fel llygaid a chlustiau ychwanegol yn ein brwydr yn erbyn trais difrifol a throsedd cyllyll. Trwy ein hysbysu ni, gallech chi achub bywyd.
Ychwanegodd yr Arolygydd Williams: "Mae'n bwysig amlygu tra bod hon yn wythnos o weithredu ymroddedig fod ein gwaith i ymdrin â throsedd cyllyll yn parhau drwy gydol y flwyddyn. Fe wnawn barhau i amlygu peryglon cario cyllyll, ac arfau eraill, a'r canlyniadau dinistriol gall hyn ei gael ar fywydau pobl. Os canfyddir chi yn meddu ar gyllell fe gewch eich arestio, eich rhoi ger bron y llys, a'ch dwyn o flaen eich gwell."
Dywedodd y Dirprwy Gomisiynydd Cynorthwyol Graham McNulty, arweinydd trosedd cyllyll y Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion Heddlu: “Mae Ymgyrch Sceptre ynghylch cosbi trosedd cyllyll sy'n cael effaith ddinistriol ar ein cymunedau. Mae'r nifer fawr o arestiadau ac atafaeliadau a wnaed ledled Cymru a Lloegr wythnos diwethaf yn anfon neges glir na wnawn ni oddef unrhyw drosedd cyllyll.
"Rydym wedi parhau ein partneriaeth agos gyda'r Gwasanaeth Carchardai, lle rydym wedi targedu'r rhai hynny sy'n cario arfau o fewn carchardai. Gall yr ymdriniaeth hon ychwanegu amser sylweddol i'w dedfryd ac atal troseddwyr peryglus rhag dychwelyd i'r strydoedd.
"Mae Ymgyrch Sceptre yn amlygu ymrwymiad yr heddlu sy'n gweithio gyda'r cyhoedd a phartneriaid er mwyn atal pobl ifanc rhag cymryd rhan mewn trais difrifol. Yr wythnos ddiwethaf gwelwyd heddluoedd yn ymgysylltu'n barhaus gydag ysgolion a chymunedau ledled y DU.
"Rhaid i bobl ifanc ddeall nad cario cyllell ydy'r ateb felly. Nid yw chwaith yn cynnig y warchodaeth maent yn feddwl y mae. Mae ond yn rhoi nhw mewn mwy o berygl."