Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Bydd mwy o swyddogion ar batrôl yng nghanol tref Wrecsam ar ddydd Sadwrn, 8 Mai fel rhan o drefniadau plismona ar ddiwrnod gêm.
Bydd Wrecsam yn croesawu Stockport County yn rownd gyn-derfynol Cwpan y Gynghrair Genedlaethol gyda'r gêm yn dechrau am 12.30pm
Disgwylir torf fawr yn y Cae Ras gan fod y tocynnau i gyd wedi eu gwerthu. Mae'r ddau dîm ar eu gorau ar hyn o bryd.
Mae'r gêm yn un hollbwysig i'r ddau glwb a allai benderfynu ar enillydd teitl y gynghrair y tymor hwn.
Bydd tai tafarn Wrecsam yn debygol o fod yn arbennig o brysur ar y diwrnod, ac mae'r heddlu wedi cynyddu eu hadnoddau i sicrhau na fydd anhrefn yn digwydd.
Meddai Uwcharolygydd Nick Evans: "Diogelwch yw ein blaenoriaeth bob amser, yn enwedig pan fydd y stadiwm yn llawn.
“Mae'r ddwy ochr wedi bod yn llwyddiannus y tymor hwn a dylai'r gêm fod yn werth ei weld.
“Dylai mynd i'r Cae Ras fod yn achlysur pleserus i bawb, ac mae ein swyddogion yno i sicrhau y bydd unrhyw gamymddwyn yn cael ei atal.
"Pan fydd anhrefn yn digwydd byddwn yn gweithio gyda'r clwb i adnabod troseddwyr, ac yn gosod Gorchymyn Diarddel Pêl-droed (FBO) ar y rhai sy'n troseddu.
"Rydym yn gobeithio bydd yr FBOs yn parhau i weithredu fel ataliad cryf o ran hynny.
"Maent yn hynod waharddol ac maent yn sicrhau fod y rhai hynny sy'n euog o anrhefn pêl-droed yn ddigon pell o'r gêm."
Mae Heddlu Gogledd Cymru a Chlwb Pêl-droed Wrecsam yn gytûn yn eu barn ar ymddygiad cefnogwyr mewn gemau pêl-droed.
Hyd yn hyn, mae wyth Gorchymyn Gwahardd Pêl-Droed wedi cael eu cyhoeddi y tymor hwn am ddigwyddiadau mewn gemau yn ymwneud â clwb pêl-droed Wrecsam.
Mae hyn yn ychwanegol i 29 gwaharddiad wedi eu cyhoeddi gan y clwb, gydag eraill i ddilyn wedi ymchwiliadau.
Mae gorchymyn gwasgaru hefyd wedi cael ei osod mewn rhannau o Wrecsam ar ddydd Sul i fynd i'r afael â'r cynnydd mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Mae'r ardaloedd sy'n rhan o'r gorchymyn i weld ar y map isod a bydd yn weithredol rhwng 7am ddydd Sul, 8 Mai hyd at 2am ar ddydd Llun, 9 Mai.

I
Dywedodd Arolygydd Luke Hughes: “Mae'r gorchymyn gwasgaru wedi cael ei roi yn ei le i helpu cadw pobl yn ddiogel ac atal troseddau ac anhrefn.
“Mae gan swyddogion bwerau ychwanegol i wasgaru pobl o'r ardaloedd hyn a byddant yn sicrhau bod unrhyw un sydd am achosi anhrefn yn cael eu cosbi'n llym."
Bydd y strydoedd ar gau yn yr ardaloedd o gwmpas y cae yn fuan cyn diwedd y gem i roi cyfle i'r cefnogwyr adael y stadiwm yn ddiogel.
Bydd cae'r ffydd yn digwydd o gwmpas Ffordd yr Wyddgrug ac yn cyfyngu mynediad i gerbydau i'r cae.
Bydd ceir ar Maesgwyn Road, Lilac Way a Yale Park yn cael eu harwain at gylchdro B&Q neu yn gorfod aros tra bod swyddogion yn delio ag unrhyw dorf a fydd yn yr ardal honno.
Am fwy o wybodaeth ar ddiwrnod y gêm, ewch i wefan Clwb Pêl-droed Wrecsam: Y newyddion diweddaraf - Clwb pêl-droed Wrecsam