Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae gweithwyr brys yng Nghymru yn atgoffa’r cyhoedd i’w trin nhw efo parch wrth i nifer yr ymosodiadau gynyddu.
Dangosa’r ffigurau diweddaraf y bu 1,421 o ymosodiadau yn y cyfnod chwe mis rhwng mis Ionawr a mis Mehefin 2022, o’i gymharu â 1,396 yn yr un cyfnod y llynedd, sy’n cynrychioli cynnydd o 1.8%.
Roedd yr ymosodiadau’n amrywio o slapio, crafu, poeri ac ymosodiad geiriol i ddyrnu, brathu, cicio a tharo pennau.
Roedd arf yn rhan o saith digwyddiad, a gwnaeth mwy na chwarter yr ymosodiadau arwain at anaf.
Cyn cyfnod y partïon Nadolig, mae gweithwyr brys yn apelio ar y cyhoedd i’w trin nhw â pharch.
Ffigyrau ar amrantiad:
Dywedodd Jason Killens, Prif Weithredwr Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: “Mae’r cyfnod wrth i ni nesau at y Nadolig yn golygu bod mwy o bobl allan yn dathlu, ac mae yfed alcohol yn creu cynnydd yn yr ymosodiadau, y rhai corfforol a geiriol.
“Cafwyd 77 o ymosodiadau geiriol ar ein staff yn ystafell rheoli’r ambiwlansau yn ystod chwe mis cyntaf y flwyddyn.
“Rydym ni’n gwybod ei bod yn gyfnod pryderus wrth i chi aros am gymorth, ond nid cam-drin ein hatebwyr galwadau yw’r ateb – os rhywbeth, gallai hynny oedi anfon help.
“Efallai na fydd gan ein criwiau unrhyw ddewis ac eithrio gadael y sefyllfa os yw eu diogelwch personol dan fygythiad, a dydi hyn ddim yn helpu unrhyw un, yn enwedig y claf.
“Mae gweithwyr brys yn bobl normal sy’n ceisio gwneud eu swydd – maen nhw yma i’ch helpu chi, felly dangoswch y parch a’r teilyngdod maen nhw’n eu haeddu, os gwelwch yn dda.”
Meddai Amanda Blakeman, Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru: “Pob diwrnod mae ein swyddogion, staff a gwirfoddolwyr yn aml yn delio â sefyllfaoedd anodd a heriol ac yn rhoi ei hunain yng nghanol perygl er mwyn cynnal y gyfraith ac mae angen iddynt allu gwneud eu dyletswyddau mor ddiogel ag sy’n bosib. Tydi ymosodiad ddim yn, na ddylai fyth fod ‘yn rhan o’r swydd.
“Mae’n gwbl annerbyniol iddynt gael eu bygwth, i bobl ymosod arnynt, i bobl ymosod arnynt ar lafar neu fod rhywun yn poeri arnynt - a dylai’r rhai sy’n gyfrifol wynebu’r goblygiadau cyfreithiol.
“Mae ymosodiad yn drosedd trawmatig sy’n creu trallod enfawr i unrhyw un, ac nid yw’n wahanol pan fo’r dioddefwr yn weithiwr brys.
“Mae ymosodiadau yn aros gyda’r dioddefwyr am weddill eu gyrfa, ac ni ddylai unrhyw un o fy heddlu na’r staff fynd i’w gwaith yn gwasanaethu’r cyhoedd ac ofni dioddef ymosodiad arnynt.
“Yn ystod tymor ewyllys dda, dangoswch barch tuag at ein gweithwyr brys a’u diogelu.”
Dywedodd Roger Thomas, Prif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru: “Mae’n warthus bod pobl yn ymosod ar weithwyr gwasanaethau brys wrth iddyn nhw weithio’n galed i ddiogelu cymunedau ac achub bywydau ac arbed eiddo.
“Gall ymosodiadau o’r natur yma arwain at anafiadau corfforol, difrod i gerbydau ac offer achub bywyd ac mae’n effeithio’n negyddol ar iechyd meddwl ein staff hefyd.
“Nid yw Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn goddef bygythiadau ac ymosodiadau corofforol ar ein staff ac rydym ni’n gweithio gyda’r Heddlu i sicrhau bod y tramgwyddwyr yn mynd trwy’r broses gyfiawnder.”
Dan y Ddeddf Ymosodiad ar Weithwyr Brys (Troseddau) mae’r diffiniad gweithwyr brys yn cynnwys staff yr heddlu, gwasanaeth tân ac ambiwlans yn ogystal â staff carchar, gweithwyr chwilio ac achub a gweithwyr y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
Dywedodd Judith Paget, Prif Weithredwr GIG Cymru: “Mae ein gweithwyr brys yn darparu gofal achub bywyd a newid bywydau bob dydd, mewn amgylchiadau anodd iawn yn aml.
“Mae cyfnod y Nadolig yn gyfnod heriol i’n staff GIG bob amser, sydd eisoes yn wynebu galw digynsail am y gwasanaeth felly, nawr fwy nag erioed, maen nhw’n haeddu cael eu trin â pharch.
“Mae unrhyw fath o weithwyr brys yn hollol annerbyniol ac rydym ni’n gwneud popeth a fedrwn i weithio â chyflogeion GIG Cymru a’n hasiantaethau partner i atal ymosodiadau corfforol a geiriol ar ein staff.”
Lansiwyd yr ymgyrch Gyda Ni, Nid yn Ein Herbyn ym mis Mai 2021 gan y Grŵp Gwasanaethau Brys ar y Cyd yng Nghymru, sy’n cynnwys y gwasanaethau goleuadau glas, y Lluoedd Arfog, GIG Cymru a Llywodraeth Cymru, i ystyried materion o fudd i bawb ar draws y gwasanaethau.
Cofrestrwch eich cefnogaeth ac ymuno yn y sgwrs ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r hashnod #GydaNiNidYnEinHerbyn a/neu #WithUsNotAgainstUs.