Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Detholwyd deg person o Ogledd Cymru i gymryd rhan mewn 'trip fythgofiadwy' ar draws y môr mewn ras longau rhwng pobl ifanc ar draws heddluoedd Gogledd Orllewin Prydain.
Bydd Her y Prif Gwnstabl yn cynnwys ras llongau tal o Portsmouth i Lerpwl yn dechrau ar ddydd Sadwrn 22 Hydref, gan orffen yn Royal Albert Dock yn Lerpwl ar ddydd Gwener, 28 Hydref.
Bydd y llongau 72 troedfedd yn cael eu hwylio gan bedwar grŵp o 10 o bobl ifanc, yn cynrychioli Heddlu Gogledd Cymru, Heddlu Glannau Mersi, Heddlu Caer a Heddlu Manceinion Fwyaf.
Ddoe lansiwyd y ras yn swyddogol yn y Royal Albert Dock yn Lerpwl gan Brif Gwnstabl Heddlu Glannau Mersi, Serena Kennedy.
Daw’r digwyddiad yn dilyn dwy flynedd o oedi oherwydd y pandemig.
Syniad Arolygydd Carl McNulty a Rhingyll Maggie Howard o Heddlu Glannau Mersi yw'r digwyddiad mewn partneriaeth â'r Tall Ship Youth Trust er mwyn cynnig cyfle i bobl ifanc sydd wedi dioddef caledi yn eu bywydau.
Dywedodd Maggie Howard: "Bydd y plant yn cael taith gwerth chweil.
“Mae llawer o bobl ifanc yn mynd i'r ysgol bob dydd er gwaethaf pob math o anawsterau yn y cartref. Mae llawer o ddioddefwyr troseddau yn dod o deuluoedd lle mae trais yn y cartref - ac er gwaethaf popeth, maent yn rhoi 100% bob dydd.
“Mae'r rhai sy'n mynd i gymryd rhan yn haeddu seibiant."
Ariannir taith llong Heddlu Gogledd Cymru gan arian sydd wedi ei gymryd oddi wrth droseddwyr o dan Ddeddf Enillion Troseddau, drwy Ymddiriedolaeth yr Heddlu a'r Gymuned Gogledd Cymru (PACT) a chefnogaeth yr Uchel Siryf.
Gyda'r cystadleuwyr o Ogledd Cymru bydd Cydlynydd Cenedlaethol Dinasyddion mewn Plismona, Poppy Hadfield-Jones a Chwnstabl Gwirfoddol, Josh Taylor - yn ychwanegol i griw o'r Tall Ship Youth Trust.
Bydd Prif Gwnstabl Cynorthwyol Chris Allsop hefyd yn ymuno â'r criw wrth i'r llongau hwylio i mewn i Lerpwl.
Yn siarad yn y digwyddiad, dywedodd DPG Allsop: “Mae hwn yn gyfle gwych i'r pobl ifanc hyn.
"Mae'r rhain i gyd rhwng 15 ac 17 oed - rhai o gefndiroedd heriol - ac mae'n dod â phawb at ei gilydd i ddysgu oddi wrth ei gilydd, adeiladu ar eu sgiliau bywyd a'u hyder.
"Mae llawer gan y bobl ifanc i ddysgu - mae'n ddigwyddiad gwych ac rwy'n dymuno pob lwc iddynt i gyd."
Dywedodd Olivia George, 15 oed a fydd yn rhan o dîm Gogledd Cymru: "Bydd hwn yn gyfle unwaith mewn oes i mi - dw i'n mynd i gael cymaint o hwyl.
"Rwyf yn edrych ymlaen at ddatblygu mwy o sgiliau ar gyfer y dyfodol, gan wneud ffrindiau a chysylltiadau newydd - a dw i'n edrych ymlaen at yr antur. Mae'n mynd i fod yn cŵl.
"Dw i erioed wedi gwneud unrhyw beth fel hyn o'r blaen, felly mae'n gyfle mawr i mi."
Dywedodd Chas Cowell, Rheolwr Gwirfoddol y Tall Ship Youth Trust bod yr her hefyd yn gyfle gwych i bobl ifanc i weld yr heddlu mewn ffordd wahanol.
Dros y blynyddoedd, rwyf wedi gweld rhai sy'n cymryd rhan mewn heriau fel hyn yn dod yn ôl yn bobl gwell. Mae'n adeiladu ar eu sgiliau bywyd, sgiliau byw'n annibynnol a'u sgiliau yn y gweithle.
"Fydd na ddim coctels na phyllau nofio yn rhan o'r fordaith, bydd y bobl ifanc hyn yn gwneud popeth eu hunain – llywio’r llong, codi hwyliau, gweithio am bedair awr, gorffwys am bedair awr, coginio a glanhau. Heb eu gwaith caled, ni fyddwn i'n gallu mynd.
“Bydd rhai yn gweld eisiau Wi-Fi ac yn colli cwsg. Ni fydd llawer wedi arfer â chael dim ond pedair awr o gwsg ac yna gweithio.
“Ond mi fyddant yn gweithio fel tîm drwy weithio gyda'i gilydd."
Ychwanegodd y Prif Gwnstabl Serena Kennedy: “Gobeithio bydd y bobl ifanc sy'n cymryd rhan yn mwynhau pob munud o'r profiad, yn gwneud ffrindiau newydd, dysgu sgiliau newydd, ond y bwysicach fyth, gobeithio y byddant yn cael hwyl.
“Pob lwc i'r swyddogion a'r bobl ifanc i gyd sy'n cymryd rhan. Dw i'n siŵr y byddant yn gwneud y gorau o'r cyfle gwych hwn ac yn llwyr ymroi i groesi'r llinell yn gyntaf."
Ar ran bwrdd ymddiriedolwyr PACT, dywedodd Dave Evans, Rheolwr Prosiect PACT: “Mae PACT yn falch o gefnogi pobl ifanc ar draws Gogledd Cymru er mwyn iddynt gymryd rhan yn her y Prif Gwnstabl.
"Mae’n gyfle gwych i’n pobl ifanc, yn enwedig ar ôl yr anawsterau rydym ni i gyd wedi profi dros y ddwy flynedd diwethaf.
"Pob lwc i’r rhai hynny sy’n cymryd rhan ac edrychwn ni ymlaen i glywed mwy am eu profiadau.”