Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cafodd 21 o bobl eu harestio a chafodd cyffuriau, machete, arian parod a chyffuriau Dosbarth A eu hatafaelu'r wythnos diwethaf wrth i Ogledd Cymru gymryd rhan yn wythnos ddwysáu'r Llinellau Cyffuriau cenedlaethol i dargedu gwerthwyr cyffuriau ar draws y rhanbarth.
Digwyddodd yr wythnos ddwysáu rhwng dydd Llun 17 Mai a dydd Sul 23 Mai ac roedd yn cynnwys gweithredu gwarantau, gweithrediadau ar y cyd rhwng heddluoedd a rhwystro cerbydau allai fod yn gysylltiedig â gweithgarwch llinellau sirol.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Simon Kneale: "Anelwyd y gwaith at y rhai sy'n delio â chyffuriau ar ein strydoedd ac roedd yn cynnwys gwarantau chwilio safleoedd yn cael eu defnyddio ar gyfer gweithgarwch anghyfreithlon, yn ogystal â gweithredu ar y cyd rhwng adrannau rhwystro heddluoedd Gogledd Cymru a Heddlu Glannau Mersi."
Mae'r canlyniadau'n cynnwys:
Dywedodd DI Kneale: "Yn ystod yr wythnos cafodd gwarantau chwilio eu gweithredu yn Wrecsam, Sir y Fflint a Sir Ddinbych o dan y Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau arweiniodd at arestiadau ac atafaelu cyffuriau anghyfreithlon, arfau, gan gynnwys machete, nifer o ffonau symudol ac arian parod, y credir bod pob un ohonynt wedi'u cael o weithgarwch troseddol. Roedd swyddogion hefyd mewn ardaloedd lle ceir problemau, yn targedu unigolion sy'n ymwneud â delio cyffuriau Llinellau Cyffuriau ac yn cam-fanteisio ar bobl, yn gwneud chwiliadau ac yn defnyddio tactegau tarfu gydag amlygrwydd uchel. Gwnaethom hefyd dargedu'r rhwydwaith ffyrdd gan ddefnyddio ein huned plismona ffyrdd a Thimau Rhwystro’r Heddlu."
Ochr yn ochr â hyn, cysylltodd ymgyrch #lookcloser, sy'n ceisio codi ymwybyddiaeth o'r materion a thynnu sylw at yr arwyddion i fod yn ymwybodol ohonynt, dros 65,000 o bobl ac arweiniodd at ymgysylltu cadarnhaol â Chymdeithas y Plant.
Rhannwyd fideos diogelu hefyd â Chyfiawnder Ieuenctid, ysgolion a cholegau, a'r amcan allweddol oedd diogelu ac amddiffyn y rhai sydd mewn perygl o ddioddef cam-fanteisio troseddol, gan gynnwys oedolion a phlant bregus.
Dywedodd Di Kneale: "Os gallwn godi ymwybyddiaeth o'r mater a thynnu sylw at yr arwyddion i gadw llygad amdanynt, rydym yn gobeithio lleihau cyrhaeddiad y troseddwyr hyn a helpu i wneud Gogledd Cymru'r lle mwyaf diogel yn y DU."
Dywedodd y Dirprwy Brif Gwnstabl Richard Debicki: "Roedd yr wythnos yn llwyddiant mawr ac rwy'n ddiolchgar am y gwaith enfawr a wnaeth i mewn i hyn gan yr holl swyddogion dan sylw yma ac ar draws y rhanbarth. Mynd ar drywydd y rhai sy'n achosi niwed i'n cymunedau yw ein busnes dyddiol a bydd ein gwaith o fynd ar drywydd y rhai sy'n dosbarthu cyffuriau yn parhau 24/7.
"Byddwn yn parhau i darfu ar y gangiau troseddol hyn lle bynnag y bo modd. Ni fyddwn yn eu goddef a gallant ddisgwyl gweithredu cadarn a di-baid yn eu herbyn. Cadw ein cymunedau'n ddiogel yw ein prif flaenoriaeth o hyd."
Dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd Andy Dunbobbin: "Roedd yr wythnos hon yn amlwg yn llwyddiant ac rwy'n gobeithio y bydd newyddion am y gwarantau a'r arestiadau hyn yn tawelu meddyliau pobl leol na ddylai Gogledd Cymru gael eu gweld fel targed hawdd gan gangiau troseddol.
"Mae llinellau cyffuriau yn drosedd echrydus sy'n aml yn cynnwys trais difrifol. Manteisir ar blant ac oedolion bregus fel rhan o'r rhwydweithiau hyn ac nid yw'r rhai sy'n gysylltiedig yn poeni fawr ddim am yr effaith enfawr y mae eu gweithredoedd yn ei chael ar y gymuned ehangach sy'n cadw at y gyfraith.
"Ni oddefir dosbarthiad cyffuriau rheoledig a byddaf yn llwyr gefnogi'r heddlu yn ei ymdrechion parhaus i fynd ar drywydd y rhai sy'n achosi niwed i'n cymunedau." “