Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
15:18 14/07/2021
Mae gwaharddiad llym ar ystod eang o gyllyll, arfau a drylliau penodol yn dod i rym heddiw (dydd Mercher, 14 Gorffennaf fel rhan o weithred gan y Llywodraeth er mwyn taclo trosedd difrifol.
Mae cyllyll seiclon, cyllyll troelli a drylliau tanio ‘sydyn’ ymysg y rhai sy’n cael eu gwahardd, ac mae’r arfau yma i gyd yn gysylltiedig â trosedd difrifol mewn cymunedau ar draws y wlad.
Mae diffiniad cyfreithiol newydd o gyllyll chwipio (flick knife), sydd wedi cael eu gwahardd ers 1959, hefyd yn dod i rym, a fydd yn arwain at fwy o’r math yma o arfau yn cael eu gwahardd.
Mae pob arf wedi’i wahardd yn gyhoeddus gan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1988, gan gynnwys cyllyll ‘zombie’, ‘shuriken’, ‘death stars’ a ‘knuckledusters’, a mi fydd y rhan nawr yn cael eu gwahardd mewn llefydd preifat, sy’n golygu y bydd yn anghyfreithlon eu cadw gartref.
Bydd unrhyw un sydd â dryll tanio yn eu meddiant o dan y ddeddf yma yn wynebu 10 mlynedd o garchar, a bydd y rhai sydd â un o’r arfau eraill yn wynebu cael eu dedfryd hyd at chwech mis o garchar, neu ddirwy neu’r ddau.
Meddai’r Prif Gwnstabl Cynorthwyol, Sacha Hatchett: “Mae’r niwed sy’n cael eu achosi i deuluoedd a chymunedau drwy farwolaeth oherwydd cyllell yn ddinistriol, a dyna pam mae’r heddlu’n canolbwyntio ar y mater hwn.
“Rydym yn croesawu’r newidiadau i’r ddeddf hon. Mi fydd y mesurau hyn yn helpu swyddogion i atafaelu mwy o arfau peryglus, delio â’r rhai sy’n achosi niwed, ac yn bwysicach oll, ei gwneud hi’n anodd iawn i bobl ifanc gael gafael ar cyllyll ac eitemau peryglus eraill.
“Nid yw trosedd cyllyll yn rhywbeth y gall yr heddlu ei ddatrys eu hunain. Rydym yn gweithio’n agos hefo partneriaid a grwpiau megis ysgolion a busnesau er mwyn addysgu pobl ifanc ac esbonio nad yw cario cyllell yn opsiwn. Mae’r ymyrraeth cynnar yma yn chwarae rôl hanfodol wrth stopio pobl ifanc rhag byw bywyd troseddol.”
Meddai’r Ysgrifennydd Swyddfa Gartref, Priti Patel: “Nis oes lle mewn cymdeithas ar gyfer trosedd treisgar a’r difrod sy’n cael ei achosi gan arfau megis cyllyll a drylliau tanio. Mae bywydau wedi cael eu colli oherwydd hyn, ac mi fydd y gwaharddiad yma yn helpu arbed bywydau drwy gael gwared o’r arfau yma oddi ar y strydoedd ac allan o ddwylo troseddwyr.
“Mae’r niwed sy’n cael ei achosi drwy drosedd treisgar yn anerbynniol, a dyna pam mae’r Llywodraeth yn rhoi’r pwerau yma er mwyn eu stopio rhag digwydd a gwarchod y cyhoedd.
“O heddiw, bydd unrhyw un sy’n cael eu dal ag arf yn eu meddiant, yn wynebu cael eu dedfrydu’n llym.”
Mae’r ddarpariaeth wedi ei gynnwys yn Neddf Arfau Peryglus y Llywodraeth, a dderbyniodd ‘Gydsyniad Brenhinol’ ym mis Mai 2019.
Rhwng mis Rhagfyr 2020 a mis Mawrth 2021, mi wnaeth y Llywodraeth redeg cynllun a oedd yn caniatáu i’r cyhoedd waredu unrhyw arf dan y ddeddf hon a derbyn iawndal gan y Swyddfa Gartref.
Yn ystod y cyfnod hwn, cafodd 14,965 o gyllyll ac arfau, 1,133 o ddrylliau tanio ‘sydyn’ (sy’n cael ei ddiffinio dan y Ddeddf Arfau Peryglus) a mwy na 32,000 o eitemau eraill eu gwaredu, gyda’r Swyddfa Gartref yn derbyn a phrosesu 829 o ffurflenni iawndal.
Mae’r Llywodraeth hefyd yn atgoffa aelodau o’r cyhoedd ynglŷn â newidiadau I’r gyfraith yn ymwneud â drylliau tanio hen.
Mae’r ‘Rheoliadau Drylliau Tanio Hen 2021’, a gyflwynwyd yn mis Mawrth eleni yn darparu, am y tro cyntaf, diffiniad cyfreithiol cywir o ddryll tanio hen, er mwyn atal troseddwyr ecsbloetio’r diffyg eglurder yn y gyfraith er mwyn bod â dryll o’r fath y neu meddiant.
Mae gan berchnogion drylliau tanio sydd bellach ddim yn cael eu hadnabod fel drylliau hen oherwydd y newid yn y ddeddf hyd at 22 Medi eleni er mwyn ymgeisio am dystysgrif dryll tanio, sydd yn eu caniatáu i’w cadw’n gyfreithlon. Fel arall, fe allen nhw eu gwaredu, gwerthu neu cael gwared o’u arf cyn 22 Medi.
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn annog unrhyw un gysylltu â nhw os ydynt yn ymwybodol o unrhyw berson sy’n ymwneud ac arfau anghyfreithlon, drwy’r wefan neu drwy ffonio 101. Fel arall gall unrhyw un gysylltu â Crimestoppers yn ddi-enw ar 0800 555 111.