Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ymunodd SCCH Lucy Davies â’r heddlu ym mis Hydref 2020, gyda heriau dyslexia a dyspraxia – anhawsterau cydlynu symudiadau.
Ni chafodd ddiagnosis hyd nes iddi gwblhau ei lefelau A pan sylweddolodd ei hathro gyrru nad oedd hi’n gallu dweud y gwahaniaeth rhwng chwith a de ac nad oedd hi’n gallu dweud faint o’r gloch oedd hi.
“Roedd ymuno â’r heddlu yn rhywbeth roeddwn i wedi bod eisiau gwneud ond doedd erioed gen i’r hyder i wneud cais ar ôl cael gwybod yn yr ysgol nad oeddwn i’n ddeallus,” meddai.
“Fy mrawd ddywedodd wrthyf i am ymgeisio, fo wnaeth fy annog i ymgeisio.
“Mi wnes i gymryd y siawns, ac mi wnaeth dalu ar ei ganfed.”
Yn ystod y broses ymgeisio, dywedodd SCCH Davies ei bod hi wedi cael cefnogaeth gan gyfrifiadur i sefyll ei harholiadau gyda meddalwedd a oedd yn darllen allan y cwestiynau a thiwtor wrth lawr i roi cymorth os oedd angen.
Ychwanegodd: “Hyd yn oed heddiw, mae rhywun yno i ofyn os ydw i angen unrhyw beth – dydy fy anabledd ddim yn rhwystr.
“Y rhwystr mwyaf roedd yn rhaid i mi ei orchfygu oedd fy hunan hyder fy hun ond wrth wneud y swydd, rwyf wedi darganfod fy mod yn gallu gwneud pethau, hyd yn oed os nad oeddwn yn credu fy mod yn gallu.
“Dim ond ffydd yn fy hun oedd angen arna i.”
Ewch i’n tudalen yfory i glywed stori SCCH Ryan Thomas.