Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Unwaith eto rydym yn cefnogi Diwrnod Stephen Lawrence eleni (22 Ebrill 2021) i gofio bywyd Stephen Lawrence ac adlewyrchu ar sut mae plismona wedi newid oherwydd yr hanes hwn.
Cafodd Stephen Lawrence ei lofruddio ar 22 Ebrill 1993 mewn ymosodiad hiliol. Enwyd pump o dan amheuaeth ond fe'u cafwyd i gyd yn ddieuog. Cynhaliwyd ymchwiliad cyhoeddus ac yn 1999 cyhoeddwyd adroddiad Macpherson.
Arweiniodd yr adroddiad at nifer o newidiadau o fewn yr heddlu, fel y nod o wneud yr heddlu yn weithlu mwy cynrychiadol a chreu'r IOPC (Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu).
Rydym yn ymroddedig i barhau i gofio hanes Stephen bob blwyddyn. Byddwn yn dysgu'r genhedlaeth iau yn ein heddlu a'r gymuned i ddeall sut y gwnaeth llofruddiaeth Stephen newid plismona am byth.
Eleni, mae PC Amit Patel yn gweithio gyda'r elusen 'Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth', Clwb Pêl-droed Wrecsam ac ysgolion yn Wrecsam ar weithdai a fydd yn rhoi addysg i bobl am hiliaeth a hanes Stephen Lawrence.
Bydd ein Cadetiaid hefyd yn cymryd rhan mewn digwyddiad ar-lein i ddysgu am hanes Stephen Lawrence.
Mae hanes Stephen ac adroddiad Macpherson wedi dangos i ni bwysigrwydd gweithio i gael heddlu cynrychioliadol sy'n adlewyrchu pawb yn ein cymunedau amrywiol yng Ngogledd Cymru ac rydym yn parhau i wneud hyn y flaenoriaeth.
Dilynwch ein cyfryngau cymdeithasol wrth i ni rannu addewidion #BecauseofStephen.