Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Sylw gan y Prif Gwnstabl Carl Foulkes
Does yr un ohonom wedi peidio cael ein heffeithio gan y newyddion yr wythnos hon am ddiflaniad Sarah Everard. Roedd hi'n ddynes ifanc ar ei ffordd adref ar ei phen ei hun o dŷ ffrind yn Llundain. Erys fy meddyliau didwyll gyda'i theulu a'i hanwyliaid.
Mae wedi dod yn amlwg iawn y dylai pawb, lle bynnag y bônt, allu byw, gweithio a cherdded ein strydoedd heb ofni aflonyddwch, cam-drin neu drais. Rydym ni wir eisiau i unrhyw un hysbysu am unrhyw bryderon gyda hyder llwyr y gwnaiff yr heddlu ymdrin â'r pryder hwnnw.
Diolch byth, mae digwyddiadau fel hyn yn brin, yn enwedig yng Ngogledd Cymru. Ond nid yw hyn yn golygu na wnawn ni ystyried hysbysiadau am ymddygiad amheus yn ddifrifol. Mae ymdrin â phob cam-drin a thrais yn flaenoriaeth i ni. Rydym yn gwbl ymroddedig i wneud popeth a allwn i atal hyn ac erlyn y bobl hynny sy'n cyflawni neu'n ceisio cyflawni troseddau o'r fath.
Mae gan bawb hawl i deimlo'n ddiogel a gwnawn wneud ein gorau i sicrhau mai fel hyn y mae hi.
Buaswn yn annog unrhyw un sydd â phryderon am ymddygiad amheus i'n ffonio ni ar 101, neu 999 os ydynt yn teimlo eu bod mewn perygl. Os oes gennych unrhyw bryderon nad ydynt yn rhai brys, defnyddiwch ein cyfleusterau sgwrsio ar-lein.
Byddai eich cyswllt, gwybodaeth a'ch galwad yn ein cynorthwyo ni i dargedu patrolau i ardaloedd. Gallent roi darn arall i achos sydd eisoes yn bodoli. Yn y pen draw, byddant yn ein cynorthwyo i ddiogelu eich cymuned.
Peidiwch â meddwl na fydd eich galwad yn cael ei chymryd o ddifrif. Gallaf eich sicrhau y bydd.