Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
14:07 03/03/2023
Rydym yn ymchwilio i ddau adroddiad o fyrgleriaeth yn ardaloedd Benllech a Bodedern ar Ynys Môn ar ddydd Gwener 1 Mawrth a dydd Iau 2 Mawrth.
Riportiwyd byrgleriaeth yn ardal Lon Conwy, Benllech rhwng 9am-10.30pm ar ddydd Mercher (1 Mawrth). Cafodd nifer o eitemau eu dwyn.
Y diwrnod canlynol (2 Mawrth) riportiwyd ail fyrgleriaeth rhwng 5.30pm-7pm yn ardal Cae Melys, Bodedern. Cafodd swm o arian ei ddwyn.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Richard Griffith: “Rydym yn apelio am wybodaeth yn dilyn adroddiadau o ddau fyrgleriaeth yn ardal Bodedern a Benllech yr wythnos hon a allai fod yn gysylltiedig â'i gilydd.
“Tra ein bod yn parhau gydag ein hymchwiliadau hoffwn sicrhau trigolion bod yr heddlu ar batrôl ychwanegol yn yr ardal ac yn siarad â thrigolion ac yn rhoi cyngor ar atal byrgleriaeth.
“Rydym yn gofyn i drigolion fod yn wyliadwrus o unrhyw ymddygiad yn yr ardal ac i riportio unrhyw weithgaredd amheus i'r heddlu.
"Buaswn yn annog unrhyw un sydd â CCC neu gamera cerbyd, i gysylltu â ni.
Gall unrhyw un â gwybodaeth, neu sydd wedi gweld rhywbeth amheus gysylltu â ni drwy ein gwefan neu drwy alw 101, gan ddyfynnu'r rhif 23000178377 ar gyfer y digwyddiad ym Menllech a 23000182198 ar gyfer y digwyddiad ym Modedern.
Mae nifer o ffyrdd i wella diogelwch yn eich cartref i atal byrgleriaethau. Ceir cyngor a gwybodaeth ar ein gwefan.