Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae'r Tîm Troseddau Cefn Gwlad wedi lansio ymchwiliad i achos marwolaeth mochyn daear, a gafodd ei ganfod wedi ei hoelio i goeden yn Ninbych
Mae moch daear wedi eu diogelu o dan Ddeddf Moch Daear 1992 ond cafodd yr anifail hwn ei ganfod yn ardal Nant Glyn gan aelod o'r cyhoedd a oedd yn cerdded yn yr ardal bore ddoe (Awst 18).
Cafodd ei ganfod yn crogi o goeden 10 troedfedd o uchder a'i draed wedi eu hoelio iddi.
Meddai PC Richard Smith o Dîm Troseddau Cefn Gwlad: "Nid oes modd cadarnhau eto beth oedd achos marwolaeth yr anifail hwn ond rydym wedi cyflwyno'r corff i gael post-mortem.
“Mae'n anodd credu bod pobl yn erlid moch daear yng Ngogledd Cymru o hyd. Byddwn yn parhau gyda'n partneriaid i fynd i'r afael â digwyddiadau ffiaidd fel hyn."
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â Thîm Troseddau Cefn Gwlad Heddlu Gogledd Cymru drwy'r wefan neu drwy ffonio 101, gan ddyfynnu rhif cyfeirnod Z121155. Fel arall, ffoniwch Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.

