Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Nos Galan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt yn ddigwyddiadau cyffrous i lawer o bobl ledled Gogledd Cymru. Drwy Ymgyrch Bang, mae Heddlu Gogledd Cymru a phartneriaid yn cydweithio pob blwyddyn er mwyn helpu pawb fwynhau’r dathliadau’n ddiogel, yn gyfrifol ac efo parch tuag at bobl eraill.
Gan weithio ynghyd â’r awdurdodau lleol a phartneriaid cymunedol, ‘da ni’n rhannu cyngor, hyrwyddo gweithgareddau lleol ac ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol er mwyn helpu cadw’n cymunedau ni’n ddiogel.
Er bod y mwyafrif o bobl yn dathlu’n gyfrifol, mi all digwyddiadau ymddygiad gwrthgymdeithasol gynyddu yn ystod y cyfnod hwn. Mae’r hyn all ymddangos fel hwyl diniwed achosi gofid, difrodi eiddo, rhoi pwysau ar y gwasanaethau brys ac, mewn rhai achosion, arwain at droseddau.
Efo’n gilydd, mi allwn ni sicrhau bod Nos Galan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt yn parhau bod yn hwyl ar gyfer pawb.
Ymgyrch Bang ydy ymgyrch blynyddol Nos Galan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt Heddlu Gogledd Cymru.
Mae’r ymgyrch efo’r nod o:
Fel rhan o Ymgyrch Bang, mae timau plismona cymdogaethau yn ymweld ag ysgolion, grwpiau ieuenctid a lleoliadau cymunedol er mwyn siarad efo pobl ifanc ynglŷn â chadw’n ddiogel a gwneud dewisiadau cadarnhaol.
Mae arian gan Ymddiriedolaeth yr Heddlu a’r Gymuned (PACT) hefyd yn cefnogi gweithgareddau a mentrau lleol, er mwyn diddori pobl ifanc yn ystod dathliadau’r hydref.
Mi ddylai Nos Galan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt fod yn hwyl i bawb.
Cofiwch:
Peidiwch â:
Cofiwch: mi all gweithrediadau sy’n ymddangos fel jôc achosi niwed go iawn, ac mi all arwain at weithredu gan yr heddlu.
Mae rhieni a gofalwyr yn chwarae rhan bwysig wrth helpu pobl ifanc ddathlu’n ddiogel. Cymerwch amser er mwyn:
Mi all sgwrs syml helpu atal digwyddiadau a chadw pawb yn ddiogel.
‘Da ni’n gofyn i fân-werthwyr gefnogi Ymgyrch Bang drwy helpu lleihau cyfleoedd i ymddwyn yn wrthgymdeithasol.
Ystyriwch:
Mi all cydweithio efo busnesau lleol helpu lleihau ymddygiad niwsans a gwarchod cymunedau.
Cysylltwch efo’r Gwasanaeth Cywir
Mae’r gwasanaethau brys ac asiantaethau partner yn profi mwy o alw o gwmpas Nos Galan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt. Helpwch ni gadw gwasanaethau ar gael ar gyfer y bobl sydd eu hangen fwyaf, drwy gysylltu â’r sefydliad cywir.
Ar faterion yn ymwneud ag:
Er mwyn riportio materion nad ydyn nhw’n rhai brys – ewch ar:
Riportio | Heddlu Gogledd Cymru
Er mwyn cael arweiniad pellach ynglŷn â sut a phryd i gysylltu efo ni, cliciwch yma:
Galw’n Gall | Heddlu Gogledd Cymru
Argyfwng: Ffoniwch 999 os oes bygythiad uniongyrchol i fywyd, difrod difrifol, trosedd ar y gweill neu sefyllfa argyfyngol.
Dewch o hyd i wybodaeth eich awdurdod lleol drwy dudalen ein partneriaid ni:
Ein partneriaid | Heddlu Gogledd Cymru
Mae Her Ymgyrch Bang yn rhoi cyfle i blant a phobl ifanc ledled Gogledd Cymru i wneud gwahaniaeth cadarnhaol yn eu cymunedau nhw, wrth hefyd gael cyfle i ennill gwobrau arian parod ar gyfer eu hysgol, clwb neu grŵp
Cliciwch yma er mwyn cael rhagor o wybodaeth ynglŷn â Her Ymgyrch Bang:
Op Bang: Challenge | Heddlu Gogledd Cymru
Posteri “Dim Cast neu Geiniog, Diolch”
‘Da ni wedi cynhyrchu posteri y gellir eu lawrlwytho ar gyfer preswylwyr sy’n well ganddynt beidio â derbyn galwyr Cast neu Geiniog.
Mi allwch chi:
‘Da ni’n gofyn i bawb sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau Nos Galan Gaeaf i barchu cartrefi sy’n dangos y posteri hyn.
2,167KB
Er mwyn cael rhagor o wybodaeth ynglŷn ag Ymddiriedolaeth yr Heddlu a’r Gymuned (PACT), a’r gweithgareddau mae’n eu hyrwyddo, ewch ar:
North Wales Police and Community Trust
Mi allwch chi hefyd gael y newyddion diweddaraf ynglŷn â gweithgarwch eich tîm plismona lleol chi drwy gydol Nos Galan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt drwy ddilyn: #YmBang26