Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ydych chi'n meddwl eich bod chi'n addas?
Fel gweithwyr yr heddlu, mae disgwyl i ni gynnal y gyfraith, atal trosedd ac anrhefn, gwarchod a thawelu meddwl cymunedau, ymchwilio trosedd a dod â throseddwyr o flaen eu gwell. Rydym i gyd yn wahanol ac nid fydd pob un o'r rhain yn berthnasol - arbrofwch i weld yr hyn sy'n gweithio i chi. Yn aml, gall ein penderfyniadau effeithio pobl eraill, weithiau ar adegau anodd yn eu bywydau. Mae'n bwysig fod y penderfyniadau rydym yn eu gwneud yn cael eu gwneud yn y ffordd iawn, am y rhesymau iawn.
Mae gan bawb ym maes plismona safle breintiedig mewn cymdeithas sy'n dibynnu ar gydsyniad y cyhoedd. Mae ein perwyl o gynorthwyo cadw'r cyhoedd yn ddiogel yn dibynnu arnom ni'n cael derbyniad a chydweithrediad y cyhoedd. Rhaid i ni gyd geisio cyflawni gwasanaeth heddlu anrhydeddus a chyfreithlon sy'n haeddu cefnogaeth y cyhoedd.
Os hoffech weithio i HGC, mae'n bwysig fod cael egwyddorion moesegol cryf a'ch bod yn ceisio gwneud y peth iawn ar yr amser iawn, am y rhesymau iawn. Rydym yn dilyn egwyddorion plismona moesegol y Coleg Plismona er mwyn sicrhau bod ein gweithwyr yn deall sut i gynnal uniondeb ein proffesiwn ni. Os ydych yn meddwl ymuno hefo'r heddlu, dylech ddarllen yr egwyddorion plismona moesegol a gweld os ydych yn gymwy.
Ymrwymiad i Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant; rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb beth bynnag fo'ch cefndir. Mae ein Tîm Cynrychiolaeth y Gweithlu ar gael i drafod y cymorth sydd ar gael os oes gennych ddiddordeb mewn gyrfa hefo Heddlu Gogledd Cymru: [email protected].
Bydd y tîm hwn hefyd yn gallu cynghori ar gymorth gweithredu'n bositif a sut i gael mynediad at hyn.
Ar ôl i chi ymuno hefo HGC, nid ydy'r cymorth yn stopio. Mae'r tîm cynrychioli'r gweithlu yn gweithio'n agos ochr yn ochr hefo'r tîm Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant er mwyn sicrhau bod pawb yn HGC yn teimlo eu bod yn cael eu cynorthwyo i wneud eu rôl hefo ni. Cliciwch isod er mwyn gweld y gwahanol rwydweithiau cymorth staff sy'n cael eu rhedeg gan ein gweithwyr ar gyfer ein gweithwyr, er mwyn sicrhau bod gan bawb le diogel i siarad am unrhyw broblemau y gallent eu hwynebu.