Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae'r canllawiau hyn mewn lle er mwyn creu amgylchfyd diogel ar yr holl sianeli cyfryngau cymdeithasol a redir gan Heddlu Gogledd Cymru. Nod ein sianeli cyfryngau cymdeithasol ydy creu amgylchfyd lle gall ein cymunedau ymgysylltu'n ddiogel mewn trafodaeth ac mae rhyddid iddynt wneud sylwadau, ofyn cwestiynau a chyflwyno awgrymiadau.
Rydym yn gofyn i unrhyw sy'n ymgysylltu ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol ddangos cwrteisi, caredigrwydd a pharch i holl aelodau eraill ein cymunedau ar y cyfryngau cymdeithasol. Er mwyn cynorthwyo creu'r amgylchfyd diogel hwn, rydym wedi amlinellu rhai canllawiau sy'n berthnasol i unrhyw ymgysylltu gyda ni neu aelodau eraill o'r gymuned ar unrhyw un o'n sianeli cyfryngau cymdeithasol.
Drwy ymgysylltu gyda'n sianeli cyfryngau cymdeithasol, rydych yn cytuno dilyn y canllawiau hyn.
Ni ddylai sylwadau:
Torri canllawiau
Peidiwch â defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol er mwyn hysbysu am drosedd neu ddigwyddiadau. Os ydy trosedd ar waith neu os oes bygythiad i fywyd, ffoniwch 999 bob amser. FOs nad oes argyfwng hysbyswch ar-lein neu ffoniwch 101.
Fel arall, gallwch hysbysu'n gwbl anhysbys at yr elusen annibynnol Crimestoppers ar 0800 555 111, neu drwy fynd ar eu wefan.
Ceir canllawiau a rheolau cymunedol ein llwyfannau cyfryngau cymdeithasol yma:
Mae lluniau o dan hawlfraint Heddlu Gogledd Cymru ac ni ddylid eu defnyddio heb ganiatâd Heddlu Gogledd Cymru.