Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn yr adran hon:
1. Beth yw priodas dan orfod? |
2. Sut i riportio priodas dan orfod |
3. Sefydliadau cymorth priodas dan orfod |
Priodas dan orfod yw pan nad yw un neu'r ddau o’r bobl yn cydsynio (cytuno) i'r briodas, neu pan na allan nhw gydsynio.
Gall priodas dan orfod ddigwydd i unrhyw un o unrhyw gefndir a chenedligrwydd, a gall effeithio ar wrywod a menywod. Nid dim ond i bobl ifanc mae'n digwydd: gall ddigwydd i oedolion hefyd.
Mae'n wahanol i briodas wedi'i threfnu lle mae yna ddewis a lle mae’r ddau berson yn cytuno iddi.
Mae priodas dan orfod yn aml yn gysylltiedig â chamdriniaeth ar sail anrhydedd, er nad yw hyn yn wir bob amser.
Yn y Deyrnas Unedig mae'n anghyfreithlon gorfodi rhywun i briodi. Mae hyn yn cynnwys:
Mae gennych chi hawl i ddewis pwy rydych chi'n priodi â nhw, pryd byddwch chi'n priodi neu a ydych chi eisiau priodi neu beidio.
Mae'n bosibl bod eich rhieni neu'ch teulu yn eich gorfodi i briodi am eu bod nhw’n meddwl mai dyma'r peth gorau ichi. Neu efallai y bydd rhai teuluoedd yn gweld priodas dan orfod fel rhan o'u crefydd neu eu diwylliant.
Efallai eu bod yn rhoi pwysau arnoch chi yn y ffyrdd canlynol:
Os ydych chi eisoes wedi cael eich gorfodi i briodi, efallai y bydd y gamdriniaeth hon yn dal i ddigwydd.
Gallai priodas dan orfod fod yn digwydd i rywun rydych chi'n eu hadnabod.
Arwyddion y gallai rhywun ddioddef priodas dan orfod cyn hir (neu eu bod wedi’i dioddef eisoes):