Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Masnachu pobl yw pan fydd pobl yn cael eu cludo i wlad (neu eu symud o gwmpas gwlad) a'u gorfodi i weithio, neu i wneud pethau eraill nad ydyn nhw eisiau eu gwneud.
Mae masnachwyr yn defnyddio trais, bygythiadau neu addewidion ffug o swyddi sy'n talu'n dda a bywyd gwell, er mwyn twyllo dioddefwyr i weithio iddyn nhw, sy’n cael ei alw’n gaethwasiaeth fodern.
Gall dynion, menywod a phlant o bob oed, ac o bob cefndir ddioddef y drosedd hon.
Dyma’r mathau mwyaf cyffredin o fasnachu pobl:
Mae pobl ifanc yn cael eu twyllo i deithio i'r Deyrnas Unedig, gan feddwl y byddan nhw'n mynd i'r ysgol neu'n cael swyddi yma.
Wedi cyrraedd, maen nhw'n darganfod mai celwydd oedd y cyfan ac yn cael eu gorfodi i weithio mewn bwytai, dwyn neu helpu gyda gwaith tŷ. Dydyn nhw ddim yn cael mynd i'r ysgol chwaith. Weithiau maen nhw'n cael eu gorfodi i weithio yn y diwydiant rhyw.
Trosedd gudd yw masnachu pobl, ond mae yna arwyddion a allai olygu bod rhywun wedi’i fasnachu. Cewch wybod am yr arwyddion ar ein tudalen Caethwasiaeth fodern.
Mae rhagor o wybodaeth am fasnachu pobl ar gael ar wefan yr Asiantaeth Troseddau Genedlaethol.
Mae gan gymunedau rôl bwysig i'w chwarae o ran adnabod camdriniaeth. Os gwelwch chi un neu ragor o'r arwyddion uchod a’ch bod yn amau y gallai rhywun fod yn dioddef masnachu, dywedwch wrth rywun. Byddwch bob amser yn cael eich cymryd o ddifrif ac mae amddiffyniad a chymorth ar gael.
I roi gwybod am amheuaeth neu i gael cyngor, gallwch gysylltu â'r Llinell Gymorth Caethwasiaeth Fodern yn gyfrinachol ar 08000 121 700. Mae’r llinell yn agored 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn.
Os hoffech aros yn ddienw, gallwch gysylltu â Crimestoppers ar 0800 555 111.
Gallwch riportio’r peth i ni hefyd ar-lein neu ein ffonio ni ar 101 unrhyw bryd i riportio digwyddiad. Os oes gennych nam ar eich clyw neu’ch lleferydd, defnyddiwch ein gwasanaeth ffôn testun ar 18001 101.
Ffoniwch 999 bob amser os oes trosedd ar ei hanner neu os oes bygythiad i fywyd ar unwaith. Os oes gennych nam ar eich clyw neu’ch lleferydd, defnyddiwch ein gwasanaeth ffôn testun ar 18000 neu anfonwch neges destun aton ni ar 999 os ydych chi wedi cofrestru ymlaen llaw gyda’r gwasanaeth SMS brys.
Modern Slavery Helpline
Gwybodaeth a chyngor ar gaethwasiaeth fodern.
Byddin yr Iachawdwriaeth
Cymorth dwys ar unwaith i sicrhau bod dioddefwyr masnachu yn cael y cyfle gorau posibl i ymadfer.
Migrant Help
Gwasanaethau cymorth i oedolion sy'n dioddef oherwydd masnachu pobl.
Stop the Traffik
Gwybodaeth a chyngor am fasnachu ledled y byd yn cynnwys ap a all gael ei lawrlwytho.
Kalayaan
Gwasanaethau cyngor, eiriolaeth a chymorth i weithwyr domestig mudol.
Medaille Trust
Yn helpu menywod, dynion ifanc a phlant sydd wedi cael eu rhyddhau o’r fasnach mewn pobl.
Barnardo's
Yn darparu cymorth uniongyrchol, arbenigol i blant sydd wedi’u masnachu.
NSPCC
Cyngor a chymorth i ddioddefwyr a theuluoedd plant sydd wedi’u masnachu.