Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Pan fydd rhywun yn mynd ar goll mewn gwlad dramor, yr heddlu lleol yn y wlad y mae’r unigolyn ar goll ynddi sy’n gyfrifol am ymchwilio. Mae ymateb yr heddlu lleol yn amrywio’n fawr o un wlad i’r llall.
Weithiau gall heddlu’r Deyrnas Unedig gamu i mewn pan fydd dinasyddion neu drigolion y DU yn mynd ar goll dramor. Mae sut y dylech gysylltu â ni yn dibynnu ar a ydych chi yn y DU neu a ydych chi dramor.
Dylech riportio wrth heddlu’r DU fod y person ar goll. Os ydych chi’n poeni ei fod mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch 999. Os oes gennych nam ar eich clyw neu’ch lleferydd, defnyddiwch eich gwasanaeth ffôn testun 18000 neu anfonwch neges destun atom ar 999 os ydych chi wedi cofrestru ymlaen llaw gyda'r gwasanaethSMSbrys.
Fel arall, gallwch ffonio 101 neu mae rhai heddluoedd yn eich galluogi i riportio person ar goll ar-lein.
Pan fo person ar goll mewn gwlad dramor, fel arfer yr heddlu lle mae’r person fel arfer yn byw sy’n gyfrifol am yr achos.
Os nad yw’r person sydd ar goll yn byw yn y DU, gall yr heddlu lleol i’r teulu gymryd cyfrifoldeb dros yr achos. Os ydych yn ffonio 999 neu 101, byddwch yn cael eich cyfeirio at eich heddlu lleol a fydd yn gallu nodi’r manylion a’u trosglwyddo i’r heddlu lleol cywir.
Gallwch hefyd riportio person ar goll ar-lein a bydd yr achos yn cael ei anfon ymlaen i’r heddlu lleol cywir.
Riportio bod person ar goll ar-lein
Rhestr o fanylion cyswllt heddluoedd y DU
Allwch chi ddim ffonio 999 neu 101 o’r tu allan i’r DU.
Yn ogystal â chysylltu â’r heddlu, dylech hefyd gysylltu â’r Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu (FCDO) ar +44 (0)207 008 1500.
Gofynnwch am gymorth conswl ar gyfer y wlad y mae’r unigolyn ar goll ynddi.
Yr heddlu lleol yn y wlad y mae’r person ar goll ynddi sy’n gyfrifol am yr ymchwiliad a’r trefniadau chwilio.
Bydd heddlu’r DU yn cysylltu â’r heddlu lleol drwy’r system SIRENE Ewropeaidd neu drwy Interpol (Sefydliad Rhyngwladol Heddluoedd Troseddol).
Mae Ymddiriedolaeth Lucie Blackman yn elusen sy’n cefnogi pobl sy’n chwilio am rywun sydd ar goll dramor.
Gwefan Ymddiriedolaeth Lucie Blackman
Gallant eich helpu i:
Os ydych chi yn y DU, gall yr elusen Missing People roi cymorth emosiynol i chi hefyd.
Mae gan Uned Pobl Goll y DU restr o sefydliadau sy’n delio â phobl sydd ar goll y gallwch gysylltu â nhw mewn nifer o wledydd ledled y byd.
Efallai y bydd eich AS lleol hefyd yn gallu helpu i ddelio ag awdurdodau lleol.