Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Os ydych chi mewn perygl yn ein cartref a bod angen help arnoch ar frys, ffoniwch 999.
Os oes gennych nam ar eich clyw neu’ch lleferydd, defnyddiwch eich gwasanaeth ffôn testun 18000 neu anfonwch neges destun atom ar 999 ios ydych chi wedi cofrestru ymlaen llaw gyda'r gwasanaethSMSbrys.
Pan fyddwch yn 16 oed, fel arfer bydd gennych hawl i adael cartref ac ni all eich rhieni, eich gofalwyr nac unrhyw un arall yr ydych yn byw gyda nhw eich atal. Os ydych chi’n cael eich riportio fel person ar goll, gallwch ddweud wrth yr heddlu eich bod yn ddiogel ac yn iach, ac ni fyddwn yn dweud wrth unrhyw un lle’r ydych chi os nad ydych chi’n dymuno.
Ond efallai bydd pethau ychydig yn wahanol os oes gorchymyn llys yn dweud bod rhaid i chi fyw gyda rhywun.
Cyngor a chymorth i bobl sydd ar goll
Os ydych chi dan 16 oed, mae gan eich rhieni neu'ch gofalwyr ddyletswydd i'ch cadw'n ddiogel, sy'n golygu na allwch adael cartref.
Os byddwch yn rhedeg i ffwrdd o’ch cartref a’ch bod ar goll, byddwn fel arfer yn mynd â chi adref os byddwn yn dod o hyd i chi. Ond cofiwch ddweud wrthym os nad ydych chi’n teimlo’n ddiogel gartref. Gallwn ni eich helpu.
Os ydych chi dros 16 oed ac am adael cartref, ond bod hynny’n anodd am ryw reswm (er enghraifft, mae person sy'n eich cam-drin yn eich atal chi), gallwch ofyn i ni am help i adael cartref.
Ffoniwch 999 os ydych chi mewn perygl a bod angen help arnoch ar frys. Os ydych chi’n fyddar neu'n drwm eich clyw, defnyddiwch eich gwasanaeth ffôn testun 18000 neu anfonwch neges destun atom ar 999 os ydych chi wedi cofrestru ymlaen llaw gyda'r gwasanaeth emergencySMS.
Neu ffoniwch 101 os nad yw’n argyfwng.