Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Os ydych chi mewn perygl a bod angen help arnoch ar frys, ffoniwch 999.
Os oes gennych nam ar eich clyw neu’ch lleferydd, defnyddiwch eich gwasanaeth ffôn testun 18000 neu anfonwch neges destun atom ar 999 os ydych chi wedi cofrestru ymlaen llaw gyda'r gwasanaeth neges destun brys.
Nid yw mynd ar goll yn erbyn y gyfraith. Fyddwch chi ddim mewn trwbl nac yn cael eich arestio am fynd ar goll os byddwch chi’n cysylltu â ni neu pan fyddwch yn dychwelyd adref. Rhan o’n gwaith ni yw eich helpu chi a’ch cadw’n ddiogel.
Mwy o wybodaeth am beth sy'n digwydd pan fyddwch yn dychwelyd adref
Os ydych chi wedi cael eich riportio fel person ar goll a’ch bod am roi gwybod i'r heddlu a'ch teulu eich bod yn ddiogel, gallwch fynd i unrhyw orsaf heddlu.
Byddwn ni’n:
Os ydych chi’n oedolyn ac nad ydych chi am i unrhyw un wybod lle’r ydych chi, byddwn yn parchu hyn a fyddwn ni ddim fel arfer yn dweud wrth neb lle’r ydych chi.
Ond os ydych chi’n berson agored i niwed (er enghraifft os ydych chi dan 16 oed neu os oes gennych chi salwch meddwl), mae gennym ddyletswydd i’ch amddiffyn ac efallai y byddwn yn penderfynu bod yn rhaid i ni ddweud wrth bobl lle’r ydych chi er eich diogelwch eich hun.
Mae’r elusen Missing People yn rhoi cyngor a chymorth i bobl sydd ar goll yn ogystal â’r bobl sy’n chwilio amdanynt.
Mae gan Missing People Linell Gymorth Runaway ar 116 000 ar gyfer pobl ifanc sydd wedi mynd ar goll neu sy’n ystyried mynd ar goll.
Gwefan llinell gymorth Runaway
Os nad ydych chi eisiau siarad â'r heddlu, gall Missing People eich helpu i gysylltu â phobl gartref heb ddatgelu lle’r ydych chi.
Anfon neges adref drwy Missing People
Gallant hefyd drefnu galwad dair-ffordd rhyngoch chi a'r heddlu (drwy wasanaeth cyfryngu Missing People) os ydych chi eisiau siarad â ni heb roi gwybod lle'r ydych chi.
Mae’r Samariaid yno i chi pa bynnag broblemau rydych chi’n ceisio delio â nhw. Gallwch eu ffonio 24 awr y dydd ar 116 123.
Mae Mind yn cynnig cyngor a chymorth i bobl â phroblemau iechyd meddwl.
Mae Crisis, Shelter a Centrepoint yn cynnig cyngor a chymorth i bobl ddigartref.