Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Cynllun Cofrestru Ffilm a Theledu y DU ar gyfer artistiaid ategol sy’n berchen ar gwisg heddlu, cerbydau neu offer yr heddlu. Mae’r cynllun yn diogelu artistiaid ategol pan fyddant yn teithio gyda’r eitemau hyn, gan leihau’r risg o gamddealltwriaeth os byddant yn cael eu stopio gan yr heddlu a bod yr offer yn mynd i ddwylo’r bobl anghywir.
Er mwyn ymuno â Chynllun Cofrestru Ffilm a Theledu y DU, ewch i ukfilmandtv.com. Cewch gerdyn adnabod â llun y mae’n rhaid iddo fod yn eich meddiant pan fyddwch yn teithio gydag offer yr heddlu.
Mae pob heddlu yn y DU yn ymwybodol o’r cynllun a sut i gadarnhau pwy yw’r artist ategol sy’n dangos cerdyn Cynllun Cofrestru Ffilm a Theledu y DU.