Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Does dim rhaid ichi roi’ch manylion inni pan fyddwch yn riportio pethau sensitif. Cewch ddewis aros yn ddienw.
Os ydyn ni’n credu bod eich bywyd chi neu fywyd rhywun arall mewn perygl, neu y gallai rhywun gael ei anafu'n ddifrifol, byddwn yn ceisio dod o hyd ichi.
Os ydych chi wedi dewis aros yn ddienw, dydyn ni ddim yn gwybod pwy ydych chi neu ble gallech chi fod. Gallwn ofyn am ganiatâd arbennig i weld gwybodaeth a allai ein helpu i ddod o hyd ichi. Gallai hyn gynnwys manylion am eich cyfrifiadur neu’ch ffôn symudol, er enghraifft.
Swyddogion a staff arbenigol sy’n gyfrifol am ddod o hyd i unigolyn. Maen nhw’n gweithio o dan set gaeth o reolau ac yn ceisio lleihau unrhyw ymyrraeth â’ch preifatrwydd. Dim ond yr wybodaeth sy’n angenrheidiol i helpu i'ch cadw chi’n ddiogel y maen nhw’n ei darganfod.
Mae'r penderfyniad i ddod o hyd i rywun yn cael ei wneud gan un o uwch swyddogion yr heddlu, a fydd yn ystyried yr holl ffeithiau ac yn cynnal asesiad risg. Bydd y swyddog yn cofnodi ei benderfyniad.
Dim ond os bydd yr asesiad risg yn dangos bod perygl difrifol o niwed y byddwn ni’n ceisio dod o hyd ichi.