Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Dysgwch y gwahaniaeth rhwng twyll, llwgrwobrwyo a llygredd, er mwyn ichi eu riportio i'r lle iawn.
Twyll yw pan fydd rhywun yn defnyddio tric neu sgam i gael arian neu rywbeth gwerthfawr arall gennych.
Gallai twyll personol fod yn rhywun sy'n esgus bod yn fanc er mwyn eich twyllo i drosglwyddo arian i'w cyfrif nhw.
Gallai twyll busnes fod yn rhywun sy'n dweud celwydd yng nghyfrifon y cwmni er mwyn dwyn oddi wrth bobl sydd wedi rhoi benthyg arian iddyn nhw.
Mae twyll yn aml yn digwydd ar-lein, fel twyll gwerthu tocynnau neu ddefnyddio proffil ffug ar wefan i gariadon er mwyn cael arian gennych drwy dwyll.
Llwgrwobrwyo yw rhoi neu gynnig rhywbeth i unigolyn i'w berswadio i weithredu'n anonest neu i dorri'r gyfraith drosoch chi. Mae'n anghyfreithlon cynnig, rhoi neu dderbyn llwgrwobr.
Er enghraifft, byddai cwmni sy'n talu swyddog i ddyfarnu contractau'r llywodraeth iddyn nhw yn llwgrwobrwyo.
Does dim rhaid i lwgrwobr fod yn arian. Gallai fod yn rhywbeth arall, fel cynnig dyrchafiad yn y gwaith yn gyfnewid am ffafr. Neu gallai fod yn anrheg werthfawr, fel tocynnau i ddigwyddiad chwaraeon.
Mae busnesau o dan ddyletswydd gyfreithiol i atal llwgrwobrwyo o fewn y cwmni.
lygru yw pan fydd rhywun yn camddefnyddio sefyllfa o bŵer i sicrhau arian neu rywbeth gwerthfawr arall.
Er enghraifft, byddai grŵp o gwmnïau sy'n cytuno'n gyfrinachol i bennu prisiau artiffisial o uchel yn fath o lygredd, sy'n cael ei alw'n drefnu prisiau. Neu mae gweithiwr yn gwerthu cyfrinachau cwmni i gystadleuydd yn llygru.
Mae trefnu canlyniadau mewn chwaraeon yn fath arall o lygru lle mae hyfforddwr neu chwaraewr yn dylanwadu ar ganlyniad gêm er mwyn sicrhau gwobr ariannol.
Nid twyll, llwgrwobrwyo na llygru yw anghytundebau rhwng pobl ynghylch ewyllysiau, hawliau ymweld, ffiniau eiddo, landlordiaid a thenantiaid.
Hefyd, nid yw anghydfodau ynghylch eitemau sydd wedi’u gwerthu’n dwyllodrus, eitemau diffygiol neu wasanaeth gwael yn dwyll, llwgrwobrwyo neu lygru.
Dysgwch sut i gael help gydag anghydfodau sifil.
Efallai mai dim ond rhywbeth sy'n eich gwneud yn amheus o dwyll, llwgrwobrwyo neu lygredd rydych chi wedi'i weld neu ei glywed. Ond rydym yn dal eisiau clywed amdano er mwyn inni benderfynu a ddylai camau gael eu cymryd.
Gall twyll, llwgrwobrwyo a llygredd orgyffwrdd. Er enghraifft, gallai rhywun gael ei lwgrwobrwyo i gyflawni twyll. Peidiwch â phoeni os yw'n anodd dweud pa drosedd yn union sydd wedi'i chyflawni. Gwnewch eich gorau i ateb ein cwestiynau, a byddwn ni'n dweud wrthoch beth i'w wneud nesaf.
Riportio twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd