Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae eich busnes yn derbyn ffurflen yn y post neu ar e-bost, sy’n ymddangos fel pe bai’n cynnig rhestru eich cwmni mewn cyfeiriadur busnes yn rhad ac am ddim. Bydd yn gofyn i chi ddychwelyd y ffurflen archebu hyd yn oed os na fyddwch yn archebu unrhyw beth.
Serch hynny, yn y print mân, mae’n dweud, drwy ddychwelyd y ffurflen, eich bod yn ymrwymo i archebu ac y byddwch yn talu am gofnod parhaus yn y cyfeiriadur. Mae hyn yn costio cannoedd o bunnoedd y flwyddyn i'ch busnes.
Sgam sy’n gynyddol gyffredin yw pan fydd y sgamiwr yn ffonio busnesau i gynnig gofod hysbysebu mewn cyhoeddiad sy’n gysylltiedig â'r gwasanaethau brys neu â chorff masnach cydnabyddedig, neu mewn cylchgrawn sy'n benodol i'r diwydiant.
Mewn rhai achosion maen nhw’n anfon copi sgleiniog o'r cylchgrawn i gwmnïau i'w hannog i brynu hysbyseb ynddo. Ond yn aml nid yw'r cylchgronau hyn yn cael eu hargraffu mewn swmp na'u dosbarthu, ac os ydyn nhw, mae'r cylchrediad yn llawer is na'r hyn maen nhw'n ei ddweud.
Mae rhai busnesau wedi derbyn llythyrau adennill dyled ar gyfer hysbysebion na wnaethant erioed gytuno i'w gosod.
Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gwneud eich ymchwil cyn cytuno i unrhyw beth.
Am fwy o wybodaeth a help neu i riportio hyn a nifer o fathau gwahanol o dwyll, ewch i Action Fraud, canolfan riportio genedlaethol y DU ar gyfer twyll a seiberdroseddu.
Mae twyll caffael ar gynnydd. Gallai unrhyw weithiwr sy’n gyfrifol am gaffael fod yn cyflawni twyll. Mae'n anodd nodi'r risgiau, ond defnyddiwch eich synnwyr cyffredin.
Gallai gweithiwr greu cofnod ar gyfer cwmni ffug neu ar gyfer cwmni dilys nad ydych chi'n gwneud busnes â nhw. Yna maen nhw'n trosglwyddo arian i'r cwmni, wedi'i reoli naill ai gan y gweithiwr neu rywun o'r tu allan.
Gyda sgamiau sy’n cynnwys anfonebau cwsmer ffug, mae sgamwyr yn anfon anfoneb neu fil at gwmni, yn gofyn am daliad ar unwaith am nwyddau neu wasanaethau. Mae’r anfoneb yn dweud bod y dyddiad dyledus ar gyfer talu wedi pasio ac yn bygwth y bydd yn effeithio ar eich statws credyd os na fyddwch yn talu.
Mewn gwirionedd, mae’r anfoneb yn ffug ac ar gyfer nwyddau a gwasanaethau nad ydych wedi’u harchebu na’u derbyn.
Gallai gweithiwr hefyd gymryd arian o daliad arall a newid manylion a symiau’r taledig ar sieciau ac archebion taladwy, a’i droi’n arian parod.
Gallai gweithwyr hefyd:
Efallai y bydd gwrthdaro buddiannau. Er enghraifft, mae gan weithiwr fuddiant ariannol yn llwyddiant cyflenwr, ond mae eu nwyddau a'u gwasanaethau yn ddrytach na chyflenwyr eraill.
Efallai y bydd cyflenwyr yn ceisio annog busnesau drwy gynnig unrhyw beth o werth i ddylanwadu ar benderfyniad.
Peidiwch byth â newid manylion talu oherwydd un alwad ffôn neu e-bost; gwiriwch â'ch cyswllt arferol bod y manylion newydd yn real ac yn gywir cyn gwneud unrhyw newidiadau.
Sicrhewch fod angen y nwyddau neu'r gwasanaeth sy'n cael eu darparu i’r busnes.
Adolygwch eich cyfrifon yn rheolaidd i ddod o hyd i unrhyw beth nad yw'n ymddangos yn iawn.
Gofynnwch i'ch staff nodi a herio ymddygiad amhriodol.
Am fwy o wybodaeth a help ac i riportio hyn a nifer o fathau gwahanol o dwyll, ewch i Action Fraud, canolfan riportio genedlaethol y DU ar gyfer twyll a seiberdroseddu.
Twyll cyflenwadau swyddfa yw pan fydd telefarchnata yn twyllo gweithwyr i archebu ac i dalu am offer swyddfa, fel cetris lliw.
Mae galwr yn dweud wrth y gweithiwr fod cydweithiwr neu gyn-gydweithiwr eisoes wedi archebu cyflenwadau swyddfa. I’w hargyhoeddi bod yr alwad yn un go iawn, mae’r galwr yn dweud ei fod yn aros am lofnod i gwblhau'r archeb.
Yna mae’r cwmni yn derbyn anfoneb am ddeunydd ysgrifennu a chyflenwadau swyddfa diangen sy’n costio gormod.
Os bydd y cwmni’n ceisio dychwelyd y nwyddau, ni all wneud hynny oherwydd llofnodwyd ffurflen archebu a chytunwyd ar yr archeb dros y ffôn.
Os yw aelod o'ch staff yn gyfrifol am brynu offer swyddfa, ystyriwch ddiwydrwydd dyladwy. Defnyddiwch eich cysylltiadau cyfredol bob amser ac os nad yw'r busnes yn gyfarwydd i chi, cadwch lygad. Defnyddiwch ddull sy'n seiliedig ar risg i helpu i atal twyll.
Am fwy o wybodaeth a help neu i riportio hyn a nifer o fathau gwahanol o dwyll, ewch i Action Fraud, canolfan riportio genedlaethol y DU ar gyfer twyll a seiberdroseddu.