Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Rhaid i rywun sydd wedi’i gyhuddo o drosedd fynd i'r llys i ateb y cyhuddiad.
Yr enw ar rywun sydd wedi’i gyhuddo o drosedd yw 'diffynnydd'. Yr enw ar yr awdurdod sy'n gyfrifol am erlyn yr achos yn y llys yw’r 'erlynydd'. Ran amlaf, Gwasanaeth Erlyn y Goron (GEG) fydd hyn.
Mae tri math o lys troseddol yn y Deyrnas Unedig:
Mae pob achos troseddol yn dechrau mewn llys ynadon.
Mae achosion yn cael eu clywed gan naill ai:
Does dim rheithgor mewn llys ynadon. Y barnwr dosbarth sy’n penderfynu a ydy'r diffynnydd yn euog ai peidio a pha ddedfryd i'w rhoi.
Mae llys ynadon fel arfer yn ymdrin ag achosion sy’n cael eu hadnabod fel 'troseddau diannod’, er enghraifft:
Gall hefyd ddelio â rhai o'r troseddau mwy difrifol, megis:
Mae’r rhain yn cael eu galw’n droseddau 'naill ffordd’ a gallan nhw gael eu clywed naill ai mewn llys ynadon neu yn llys y Goron.
Mae llysoedd ynadon bob amser yn trosglwyddo'r troseddau mwyaf difrifol i Lys y Goron, er enghraifft:
Mae’r rhain yn cael eu hadnabod fel ‘troseddau ditiadwy’.
Fel arfer mae gan Lys y Goron reithgor sy'n penderfynu a ydy'r diffynnydd yn euog ai peidio, a barnwr sy'n penderfynu ar y ddedfryd.
Mae llys ieuenctid yn fath arbennig o lys ynadon i bobl rhwng 10 a 17 oed.
Mae gan lys ieuenctid naill ai:
Does dim rheithgor mewn llys ieuenctid.
Os caiff y diffynnydd ei ddyfarnu’n euog, yna bydd y barnwr, neu'r ynad, yn penderfynu'r ddedfryd.
Gall dedfryd fod yn orchymyn i dreulio amser yn y carchar, i dalu dirwy, neu i wneud gwaith di-dâl, neu i wneud, neu beidio â gwneud, pethau eraill.
Rhagor o wybodaeth am Sut mae dedfrydau’n cael eu penderfynu.