Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Os yw eich beic erioed wedi cael ei ddwyn, fe wyddoch pa mor dorcalonnus y gall hynny fod. Bydd ein hawgrymiadau ymarferol yn helpu i gadw’ch beic yn ddiogel ac allan o grafangau lladron - a hefyd yn eich cynghori ynglŷn â sut i’w gael yn ôl os caiff ei ddwyn.
Y peth pwysicaf i’w gofio yw cloi eich beic ddwywaith a chofrestru rhif y ffrâm.
Dilynwch y 10 cyngor isod i sicrhau bod eich beic yn aros yn ddiogel ac nad yw’n dod yn un o’r ystadegau.
Mae defnyddio dau glo yn arafu lladron ac yn gwneud eich beic yn llai o darged. Defnyddiwch ddau glo o ansawdd da, gydag o leiaf un ohonynt yn glo D. Mae lladron yn llai tebygol o gario gwahanol fathau o offer, felly defnyddiwch ddau fath gwahanol o glo os yw hynny’n bosibl.
Clowch y ffrâm a’r ddwy olwyn wrth stondin feiciau gadarn.
Clowch eich beic mor agos â phosibl i’r stondin fel nad oes gan ladron lawer o le i weithio.
Ewch â’r rhannau y gellir eu datgysylltu’n hawdd gyda chi, megis olwynion, goleuadau, basgedi neu’r sedd. Neu defnyddiwch sgiwerau neu nytiau cloi a fydd yn gallu gwella diogelwch y beic drwy wneud yn siŵr bod y cydrannau’n sownd i’r ffrâm yn barhaol.
Clowch eich beic mewn man parcio beiciau diogel cydnabyddedig. Dylai fod wedi’i oleuo’n dda ac yng ngolwg teledu cylch cyfyng.
Cofrestrwch eich rhif ffrâm ar gronfa ddata cofrestru beiciau cenedlaethol a gymeradwyir gan Secured by Design. Gellir gweld rhif y ffrâm fel arfer o dan y beic rhwng y pedalau neu lle mae’r olwyn gefn yn ffitio. Os caiff eich beic ei ddwyn a’i ganfod gan yr heddlu, gellir ei olrhain yn ôl i chi.
Rhowch farc diogelwch ar eich beic. Mae’n ffordd weladwy ac effeithiol iawn i atal lladron beiciau. Maent yn gwybod os cânt eu dal gyda beic sydd wedi’i gofrestru, y gellir dod o hyd i’r perchennog a byddant yn cael eu harestio. Gellir dod o hyd i gynhyrchion marcio diogelwch yn Secured by Design.
Cymerwch yr un gofal i gloi eich beic yn ddiogel ar eich cartref ag y byddech yn ei wneud yn y stryd. Osgowch hysbysebu i ladron bod gennych feic gartref, er enghraifft, drwy dynnu raciau to car, a chreu ‘parthau preifatrwydd’ ar apiau fel Strava fel nad ydych yn datgelu eich lleoliad.
Gofynnwch am brawf o berchnogaeth a gwiriwch rif ffrâm y beic ar gronfeydd data cofrestru beiciau cenedlaethol a gymeradwyir gan Secured by Design.
Os yw eich beic wedi cael ei ddwyn, cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl drwy riportio ar-lein. Rhowch rif y ffrâm, rhif y gronfa ddata beiciau, llun ac unrhyw fanylion eraill i ni a gwnewch yn siŵr eich bod yn diweddaru’r statws ar y gronfa ddata beiciau y gwnaethoch gofrestru arni. Po gyntaf y byddwn yn gwybod, y cynharaf y gallwn weithredu, a gallai hynny rwystro’r beic rhag cael ei werthu ymlaen.
Mae’n werth postio disgrifiad a llun o’ch beic coll ar y fforymau canlynol: