Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Os oes gennych eitemau gwerthfawr fel gemwaith, oriorau, pasbortau, cardiau credyd, data cyfrifiadurol a dogfennau adnabod, efallai y byddwch am ystyried eu cadw mewn sêff.
Mae dau ddewis - naill ai sêff cartref neu goffor diogelwch.
Os byddwch yn dewis sêff yn eich cartref gwnewch yn siŵr fod ganddi raddiad tân. Caiff sêffs cartref hefyd eu graddio gan gwmnïau yswiriant yn ôl eu math a gwerth yr eitemau y bwriadwyd iddynt eu dal, felly gwiriwch gyda’ch cwmni yswiriant yn gyntaf er mwyn gwneud yn siŵr fod gennych yswiriant digonol.
Lleolwch y sêff yn ofalus fel na ellir dod o hyd iddi’n hawdd.
Peidiwch â’i rhoi yn eich ystafell wely gan mai dyma’r lle cyntaf y bydd lleidr yn chwilio. Gwnewch yn siŵr bod eich sêff yn gadarn drwy ei bolltio i’r wal neu’r llawr. Am fwy o wybodaeth ar goffrau, gweler Secured by Design.
Os oes gennych swm mawr o aur neu emwaith yn y teulu, efallai y byddwch am ystyried defnyddio coffor diogelwch. Mantais hyn yw nad ydych yn storio eitemau gwerthfawr yn eich cartref a gall hefyd wneud eich cartref yn llai o darged i ladron.
Cysylltwch â’ch cwmni yswiriant os byddwch yn penderfynu gwneud hyn, oherwydd gallai effeithio ar eich polisi a’ch premiwm presennol. Gall Cymdeithas Genedlaethol y Gwystlwyr ddarparu rhagor o wybodaeth am goffrau diogelwch yn eich ardal.