Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Parhau hefo'n sylw ar ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a gweithgarwch troseddol.
Wedi'i roi 09 Gorffennaf 2026
Mae Swyddogion Patrôl a Chymdogaethau Cefn Gwlad Wrecsam yn parhau i ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, gan weithio efo’n asiantaethau partner ni, ac ymateb yn barhaus ac effeithiol i ymddygiad gwrthgymdeithasol a gweithgarwch troseddol, gan nodi datrysiadau er mwyn atal ail-droseddu, a defnyddio rhaglenni addysg ac ymyrraeth. ‘Da ni hefyd wedi bod yn rhagweithiol o gwmpas yr ardal, gan gyflawni nifer o warantau cyffuriau. O ganlyniad, mi gafwyd arestiadau am droseddau’n gysylltiedig â chyffuriau.
Camau wedi'u cymryd 09 Gorffennaf 2026
Amlygrwydd ac ymgysylltu hefo'n cymunedau ni.
Wedi'i roi 09 Gorffennaf 2026
Mae Timau Patrôl a Chymdogaethau Cefn Gwlad Wrecsam yn cyflawni rhai o’r canlyniadau ‘allan o’r orsaf’ gorau yn yr heddlu o hyd. Mae hyn yn golygu bod swyddogion yn treulio mwy o amser yn y cymunedau maen nhw’n eu plismona. Mae mwy o’n staff ni wedi eu hyfforddi er mwyn defnyddio ein beiciau trydan ni’n ddiogel, gan gynnig modd arall o batrolio symudol amlwg gan ein Swyddogion Cefnogi Cymunedol yr Heddlu. ‘Da ni’n parhau hyrwyddo’r defnydd o’r cyfryngau cymdeithasol fel ffordd arall o ymgysylltu a chyfathrebu, a rhoi gwybodaeth a diweddariadau rheolaidd yn yr ardal. Yn ogystal, ‘da ni ar gael er mwyn cyfarfod yn uniongyrchol efo’r cymunedau drwy ein cymorthfeydd plismona, sydd yn Rhos a Llai bob yn ail fesul mis. Lle bo’n bosib, mae Tîm Plismona Cymdogaethau Cefn Gwlad Wrecsam yn parhau darparu presenoldeb amlwg mewn digwyddiadau cymunedol. ‘Da ni hefyd i’n gweld y tu allan i ysgolion er mwyn monitro diogelwch y ffyrdd.
Camau wedi'u cymryd 09 Gorffennaf 2026