Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
I gysylltu â'ch tîm lleol, defnyddiwch ein adnodd cysylltu ar-lein cyflym a syml.
Byddwn yn gofyn ychydig o gwestiynau i sicrhau bod eich ymholiad yn cyrraedd y lle iawn.
Lleihau Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yng Nghanol y Ddinas
Wedi'i roi 09 Hydref 2026
Mae swyddogion cymdogaethau a phatrôl yn parhau i ganolbwyntio ar leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol yng nghanol y ddinas. Dechreuodd Ymgyrch Volt ym mis Ebrill, gan nodi llecynnau problemus a threfnu patrolau amlwg penodol, cynnydd mewn ymgysylltiad, nodi unigolion sy’n gysylltiedig â’r problemau a gwaith partneriaeth gyda chyfiawnder ieuenctid a Chyngor Wrecsam er mwyn ymdrin â’r materion hyn.
Camau wedi'u cymryd 09 Hydref 2026
Gwaith partneriaeth
Wedi'i roi 09 Hydref 2026
Mae swyddogion cymdogaethau’n cynnal cysylltiad cydweithredol gryf efo Safonau Masnach a Gwarchod y Cyhoedd Wrecsam, gan ddatblygu cudd-wybodaeth er mwyn cyflawni sawl atafaeliad ac ymchwiliad llwyddiannus mewn nifer o farchnadoedd masnachol yng nghanol y ddinas. Mae’r ymweliadau hyn wedi tawelu meddwl y gymuned ein bod ni’n gweithredu ar unrhyw wybodaeth. Mae canlyniadau cadarnhaol yn cael eu hysbysu drwy’r cyfryngau cymdeithasol.
Camau wedi'u cymryd 09 Hydref 2026
Troseddau Manwerthu
Wedi'i roi 09 Hydref 2026
Mae Timau Cymdogaethau Dinas Wrecsam yn parhau i weithio tuag at gyflawni’r cyflawniad gorau o ran troseddau manwerthu. Nid yn unig mae hyn yn effeithio ar fân-werthwyr, ond hefyd y staff sy’n gweld ac yn dioddef ymddygiad y troseddwyr. Mae nifer o droseddwyr mynych yn parhau i achosi peryg a niwed i’r gymuned, ac mae cymryd camau cadarn yn parhau, wrth hefyd weithio’n galed efo mân-werthwyr er mwyn lleihau’r risg i’w siopau a’u gweithwyr.
Camau wedi'u cymryd 09 Hydref 2026
Trais yn Erbyn Merched a Genethod
Wedi'i roi 09 Hydref 2026
Mae menter newydd, sef Ymgyrch Virtue, ar fin cael ei chychwyn er mwyn cynorthwyo’r Siarter Merched ymhellach, a ddechreuwyd yn ddiweddar yng nghanol dinas Wrecsam. Nod y fenter hon ydy canolbwyntio ar addysg ar gyfer holl bartneriaid ac eiddo trwyddedig. Mi ymgymerwn ni â diogelu a chamau cadarn er mwyn atal Trais yn Erbyn Merched a Genethod. Mae HGC hefyd yn gweithio ar y cyd efo Cyngor Wrecsam er mwyn creu mannau diogel yng nghanol y ddinas.
Camau wedi'u cymryd 09 Hydref 2026
Cynyddu ymgysylltiad / hybiau
Wedi'i roi 09 Hydref 2026
Mi fydd swyddogion o’r Tîm Plismona Cymdogaethau yn cynnal sesiynau ymgysylltiad yn y ‘Cop Shop’ a’r orsaf fysiau. Mi fydd swyddogion ar gael yn y lleoliadau hyn yn ddyddiol, er mwyn darparu gwasanaeth wyneb yn wyneb i'r gymuned, er mwyn ymdrin ag unrhyw bryderon neu gynnig cyngor a help. Yn ogystal, byddwn yn cynnal digwyddiadau ymgysylltu ledled canol y ddinas mewn cymunedau a lleoliadau amrywiol.
Camau wedi'u cymryd 09 Hydref 2026