Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Grŵp o swyddogion Heddlu Gogledd Cymru yw Tîm Plismona’r Gymdogaeth wedi eu neilltuo i wasanaethu eich cymuned drwy ganolbwyntio ar droseddau lleol, anhrefn a phroblemau ansawdd bywyd.
Mae’r tîm yn cynnwys swyddogion sy’n gweithio yn eich cymuned, gyda chefnogaeth gan swyddogion ychwanegol o’r ardal ehangach.
Rydym hefyd yn gweithio gydag awdurdodau, asiantaethau partneriaid, arweinyddion cymunedau a thrigolion i benderfynu ar flaenoriaethau plismona eich ardal.
Drwy weithio gyda’n gilydd ein nod yw canfod atebion i broblemau lleol drwy gynnal ffocws ehangach ar leihau troseddu ar draws Gogledd Cymru.
Ymdrin â chamddefnyddio cyffuriau
Wedi'i roi 09 Gorffennaf 2026
Mae gwaith yn parhau yn y maes hwn, gyda help gan y cymunedau sy’n rhoi cudd-wybodaeth sy’n cyfeirio camau’r heddlu. Mae’r gudd-wybodaeth hon yn allweddol wrth gefnogi’r heddlu, nid yn unig er mwyn cynnal gwarantau chwilio yn yr ardal, ond mae hefyd yn bwydo’r darlun mawr, sef Linellau Cyffuriau, sy’n gallu croesi ffiniau nifer o heddluoedd. Mae hefyd yn helpu ein cydweithwyr ni yn y Timau Troseddau Rhanbarthol er mwyn ymdrin â Throseddau Trefnedig. Wrth ymdrin â’r gwaith hyn, ‘da ni hefyd yn gweithio efo asiantaethau partner er mwyn nodi pobl sy’n fregus yn y gymuned, ac efallai mewn perygl o gael eu camfanteisio. Mae ymdriniaeth amlasiantaeth yn cael ei defnyddio er mwyn helpu’r bobl mewn perygl. Os oes gynno chi unrhyw wybodaeth all ein helpu ni, defnyddiwch yr adran "Cysylltwch efo Ni" ar y wefan hon, neu riportiwch yn ddienw drwy Crimestoppers.
Camau wedi'u cymryd 09 Gorffennaf 2026
Ymddygiad Gwrthgymdeithasol gan gynnwys Gyrru Gwrthgymdeithasol
Wedi'i roi 09 Gorffennaf 2026
‘Da ni parhau efo’r gwaith er mwyn ymdrin â materion ymddygiad gwrthgymdeithasol parhaus, drwy ddefnyddio dadansoddiad data er mwyn amlygu llecynnau ar gyfer patrolau penodol. Nid ydy’r data bob tro’n adlewyrchu yr hyn mae’r gymuned yn ei weld, ac mae ein Tîm Plismona Cymdogaethau ni’n gweithio’n agos efo’r gymuned a phartneriaid er mwyn nodi bylchau ac ymdrin â’r rhain. Lle bo’n bosib, fyddwn ni bob tro’n ceisio nodi’r bobl sy’n achosi ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mi fyddwn ni’n ceisio ymyrryd a chefnogi, a phan nad ydy hyn yn llwyddiannus, mi fyddwn ni’n archwilio opsiynau pellach fel Cytundebau Ymddygiad Derbyniol ac Hysbysiadau Gwarchod Cymunedau, gyda’r llwybr Cyfiawnder Troseddol lle bo’n briodol. Mae Ymgyrch Tenacity yn parhau i nodi’r bobl sy’n gyrru mewn modd gwrthgymdeithasol. Mae’n sicrhau y cymerir y camau priodol ac mae’n cael ei gynorthwyo ymhellach gan ein cydweithwyr yn yr Uned Troseddau Ffyrdd. Mae hwn yn faes plismona hynod o heriol, oherwydd y risgiau cysylltiedig, yn enwedig o ran E-sgwteri a Beiciau oddi ar y Ffordd. Mae cefnogaeth y gymuned yn hanfodol wrth ymdrin â’r broblem hon. Os oes gynno chi unrhyw wybodaeth all ein helpu ni, defnyddiwch yr adran "Cysylltwch efo Ni" ar y wefan hon, neu riportiwch yn ddienw drwy crimestoppers.
Camau wedi'u cymryd 09 Gorffennaf 2026
Troseddau Manwerthu
Wedi'i roi 09 Gorffennaf 2026
Mae gwaith partneriaeth yn parhau gyda Thîm Partneriaeth Lleihau Troseddau Busnes Caer a Gogledd Cymru, er mwyn helpu busnesau lleol yn ogystal â’n hymateb ni i droseddau manwerthu. Ynghyd ag Ymgyrch Bastion, ‘da ni wedi gweld rhai canlyniadau gwych wrth nodi troseddwyr yn gynnar, a’u cyflwyno drwy’r system cyfiawnder troseddol. ‘Da ni’n parhau i weithio efo’n Tîm Atal ni, sy’n gallu helpu busnesau efo Asesiad Dylunio er mwyn Atal Troseddau, sy’n gallu helpu siopau i ddiogelu eu hunain a lleihau cyfleoedd troseddau manwerthu. ‘Da ni hefyd yn gweithio gyda phartneriaid yn Checkpoint Cymru, tîm
Rheoli Integredig Troseddwyr a Thimau Troseddwyr Ieuenctid, sy’n gallu asesu’r troseddwr a dod o hyd i gymorth addas lle bo’n briodol, er mwyn atal ail-droseddu.
Camau wedi'u cymryd 09 Gorffennaf 2026