Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ymdrin â chamddefnyddio cyffuriau
Wedi'i roi 09 Hydref 2026
Mae gwaith yn parhau yn y maes hwn, gyda help gan y cymunedau sy’n rhoi cudd-wybodaeth sy’n cyfeirio gweithgarwch yr heddlu. Mae’r gudd-wybodaeth hon yn allweddol wrth gefnogi’r heddlu, nid yn unig er mwyn cynnal gwarantau chwilio yn yr ardal, ond mae hefyd yn cyfrannu at y darlun ehangach, sef Llinellau Cyffuriau, sy’n gallu croesi ffiniau nifer o heddluoedd. Mae hefyd yn helpu ein cydweithwyr ni yn y Timau Troseddau Rhanbarthol er mwyn ymdrin â Throseddau Trefnedig. Wrth ymdrin â’r gwaith hwn, ‘da ni hefyd yn gweithio efo asiantaethau partner er mwyn nodi pobl fregus yn y gymuned, ac efallai mewn perygl o gael eu camfanteisio. Mae ymdriniaeth amlasiantaeth yn cael ei defnyddio er mwyn helpu’r bobl mewn perygl. Os oes gynno chi unrhyw wybodaeth all ein helpu ni, defnyddiwch yr adran "Cysylltwch efo Ni" ar y wefan hon, neu riportiwch yn ddienw drwy Crimestoppers. Rydym wedi cael llwyddiannau diweddar drwy gwarantau cyffuriau/ stopio a chwilio cadarnhaol a arweiniodd at ganlyniadau cadarnhaol, cyhuddiadau a datrysiadau y tu allan i’r llys lle fo’n briodol.
Camau wedi'u cymryd 09 Hydref 2026
Ymddygiad Gwrthgymdeithasol gan gynnwys Gyrru Gwrthgymdeithasol
Wedi'i roi 09 Hydref 2026
Da ni parhau efo’r gwaith er mwyn ymdrin â materion ymddygiad gwrthgymdeithasol parhaus, drwy ddefnyddio dadansoddiad data er mwyn nodi llecynnau ar gyfer patrolau penodol. Nid ydy’r data bob tro’n adlewyrchu yr hyn mae’r gymuned yn ei brofi, ac mae ein Tîm Plismona Cymdogaethau ni’n gweithio’n agos efo’r gymuned a phartneriaid er mwyn nodi bylchau ac ymdrin â’r rhain. Lle bo’n bosib, fyddwn ni bob tro’n ceisio nodi’r bobl sy’n achosi ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mi fyddwn ni’n ceisio ymyrryd a helpu, a phan nad ydy hyn yn llwyddiannus, mi fyddwn ni’n edrych ar opsiynau pellach fel Cytundebau Ymddygiad Derbyniol ac Hysbysiadau Gwarchod Cymunedau, gyda’r llwybr Cyfiawnder Troseddol lle bo’n briodol. Mae Ymgyrch Tenacity yn parhau i nodi’r bobl sy’n gyrru mewn modd gwrthgymdeithasol. Mae’n sicrhau y cymerir y camau priodol ac mae’n cael help pellach gan ein cydweithwyr yn yr Uned Troseddau Ffyrdd. Mae hwn yn faes plismona hynod o heriol, oherwydd y risgiau cysylltiedig, yn enwedig o ran sgwteri trydan a Beiciau oddi ar y Ffordd. Mae cefnogaeth y gymuned yn hanfodol wrth ymdrin â’r broblem hon. Os oes gynno chi unrhyw wybodaeth all ein helpu ni, defnyddiwch yr adran "Cysylltwch efo Ni" ar y wefan hon, neu riportiwch yn ddienw drwy Crimestoppers. Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi lleihau yng Ngogledd Sir y Fflint. Ar 25/09/26, cynhaliwyd ymgyrch er mwyn ymdrin â defnydd anghyfreithlon o feiciau oddi ar y ffordd a sgwteri trydan. Roedd yn llwyddiannus ac atafaelwyd nifer ohonynt a’u tynnu oddi ar y strydoedd.
Camau wedi'u cymryd 09 Hydref 2026
Troseddau Manwerthu
Wedi'i roi 09 Hydref 2026
Mae gwaith partneriaeth yn parhau gyda Thîm Partneriaeth Lleihau Troseddau Busnes Caer a Gogledd Cymru, er mwyn helpu busnesau lleol yn ogystal â’n hymateb ni i droseddau manwerthu. Ynghyd ag Ymgyrch Bastion, ‘da ni wedi gweld rhai canlyniadau gwych wrth nodi troseddwyr yn gynnar, a’u dwyn ger bron y system cyfiawnder troseddol. ‘Da ni’n parhau i weithio efo’n Tîm Atal ni, sy’n gallu cynnal Asesiadau Atal Trosedd efo busnesau, sy’n gallu helpu siopau i ddiogelu eu hunain a lleihau cyfleoedd troseddau manwerthu. ‘Da ni hefyd yn gweithio gyda phartneriaid yn Checkpoint Cymru, tîm Rheoli Integredig Troseddwyr a Thimau Troseddwyr Ieuenctid, sy’n gallu asesu’r troseddwr a dod o hyd i gymorth addas lle bo’n briodol, er mwyn atal ail-droseddu.Rydym wedi arestio, cyhuddo a sicrhau euogfarnau yn erbyn nifer o droseddwyr mynych sy’n gysylltiedig â throseddau manwerthu. Hefyd, mae gorchmynion llys wedi’u awdurdodi sy’n gwahardd troseddwyr rhag mynd i’r siopau sydd wedi’u targedu.
Camau wedi'u cymryd 09 Hydref 2026