Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Grŵp o swyddogion Heddlu Gogledd Cymru yw Tîm Plismona’r Gymdogaeth wedi eu neilltuo i wasanaethu eich cymuned drwy ganolbwyntio ar droseddau lleol, anhrefn a phroblemau ansawdd bywyd.
Mae’r tîm yn cynnwys swyddogion sy’n gweithio yn eich cymuned, gyda chefnogaeth gan swyddogion ychwanegol o’r ardal ehangach.
Rydym hefyd yn gweithio gydag awdurdodau, asiantaethau partneriaid, arweinyddion cymunedau a thrigolion i benderfynu ar flaenoriaethau plismona eich ardal.
Drwy weithio gyda’n gilydd ein nod yw canfod atebion i broblemau lleol drwy gynnal ffocws ehangach ar leihau troseddu ar draws Gogledd Cymru.
Ymddygiad Gwrthgymdeithasol – Tan y Fynwent, Bangor
Wedi'i roi 09 Hydref 2026
Mae ymdriniaeth datrys problemau ar waith, a arweinir gan Gwnstabl Jarvis. Gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Dinas Bangor er mwyn ymdrin a phryderon cymunedol. Cynnydd gweithgarwch patrôl yn yr ardal er mwyn cynnig tawelwch meddwl ac atal troseddu. Monitro ac adolygu parhaus drwy gynllun datrys problemau strwythuredig o dan arweiniad SCCH Dei.
Camau wedi'u cymryd 09 Hydref 2026
Troseddau Manwerthu
Wedi'i roi 09 Hydref 2026
Cyflawni ymgyrch atal troseddau manwerthu wrth i gyfnod y Nadolig agosáu. Cynllun POP penodol ar waith, sy’n canolbwyntio ar leihau lladrad a chefnogi diogelwch staff. Ymgysylltiad parhaus efo mânwerthwyr er mwyn nodi troseddwyr a rhoi mesurau ataliol ar waith.
Camau wedi'u cymryd 09 Hydref 2026
Economi Gyda’r Nos a Thrais yn Erbyn Merched a Genethod (VAWG)
Wedi'i roi 09 Hydref 2026
Wedi ymrwymo i Siarter y Merched a hyrwyddo mannau cyhoeddus mwy diogel. Cynyddu patrolau amlwg yn ystod yr economi gyda’r nos. Gwella gwaith partneriaeth efo sefydliadau, gan gynnwys Bugeiliaid y Stryd. Gweithgarwch gorfodi cyffuriau ar y cyd ag eiddo trwyddedig, er mwyn ymyrryd ar droseddu a lleihau troseddau treisgar.
Camau wedi'u cymryd 09 Hydref 2026