Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
9:00am - 7:00pm, Maw 01 Rhagfyr 2026
https://www.facebook.com/NWPGwyneddNorth/
Gorfodi Gorchmynion Gwarchod Mannau Cyhoeddus – Bangor a Chaernarfon
Wedi'i roi 30 Ebrill 2026
Ar hyn o bryd mae gan ganol trefi Bangor a Chaernarfon Orchmynion Gwarchod Mannau Cyhoeddus ar waith. Mae'r gorchmynion hyn yn anelu at leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol, yfed ar y stryd, a chamddefnyddio cyffuriau a reolir. Yn hanesyddol, mae gorfodi a chofnodi toriadau wedi bod yn anghyson. 'Da ni wedi ymroi gwella hyn drwy: · Codi Ymwybyddiaeth Ymhlith Swyddogion – Sicrhau bod yr holl swyddogion a staff yn deall amodau'r Gorchmynion a grymoedd gorfodi. · Hysbysu'r Cyhoedd – Rhannu negeseuon clir ar gyfryngau cymdeithasol fel bod trigolion ac ymwelwyr yn gwybod beth mae'r Gorchmynion yn ei olygu. · Cynyddu Patrolau – Defnyddio Timau Plismona Cymdogaethau a Swyddogion Cefnogi Cymuned i fonitro cydymffurfiaeth. · Gwella Systemau Cofnodi – Cyflwyno offer sy'n caniatáu i swyddogion gofnodi toriadau yn gywir ac mewn amser real. · Gweithio hefo Cyngor Gwynedd – Darparu data torri manwl er mwyn helpu penderfyniadau ar ymestyn neu ddirymu Gorchmynion pan fyddan nhw'n dod i ben.
Camau wedi'u cymryd 30 Ebrill 2026
Gyrru Gwrthgymdeithasol – Stryd Fawr, Bangor a'r Maes, Caernarfon
Wedi'i roi 30 Ebrill 2026
'Da ni wedi gwrando ar eich pryderon chi am yrru gwrthgymdeithasol ym Mangor a Chaernarfon, yn enwedig gyda'r nos. Mae cyflymder a sŵn gormodol yn effeithio ar ansawdd bywyd trigolion. Mae ein hymateb yn cynnwys: · Ymgyrchoedd Penodol – Cynnal gorfodaeth wedi'i gynllunio hefo Timau Plismona Cymdogaethau, Uned Troseddau Ffyrdd, ac asiantaethau partner. · Defnyddio Grymoedd Adran 59 – Rhoi deddfwriaeth ar waith sy'n ein galluogi ni ymdrin hefo cerbydau sy'n dychryn, yn peri gofid neu aflonyddwch. · Addysgu Gyrwyr – Sgwrsio hefo modurwyr wrth stopio traffig er mwyn esbonio effaith eu hymddygiad nhw. · Diweddariadau Cymunedol – Rhannu diweddariadau ar gyfryngau cymdeithasol er mwyn codi ymwybyddiaeth ac atal troseddau mynych.
Camau wedi'u cymryd 30 Ebrill 2026
Gwerthu Cyffuriau ac Ymddygiad Gwrthgymdeithasol – Llys Mair, Bangor
Wedi'i roi 30 Ebrill 2026
Dros y tri mis diwethaf, 'da ni wedi gweithio'n agos hefo Tai Gogledd Cymru, Cyngor Gwynedd, a chynrychiolwyr lleol er mwyn mynd i'r afael hefo problemau difrifol yn Llys Mair. Mae ein hymrwymiad ni'n parhau, ac yn y tri mis nesaf byddwn ni'n: · Cynnal Gweithio mewn Partneriaeth – Cyflwyno strategaeth ar y cyd er mwyn mynd i'r afael â throsedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. · Cynyddu Amlygrwydd – Darparu presenoldeb heddlu cryf er mwyn tawelu meddwl trigolion ac atal troseddwyr. · Cymryd Camau Gorfodi Cadarn – Defnyddio grymoedd fel stopio a chwilio, arestio, a chael gwarantau o dan y Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau lle mae cudd-wybodaeth yn ei hategu hi. · Gwella Gwyliadwriaeth – Cydweithio hefo'r awdurdod lleol er mwyn sicrhau CCC. · Ymgysylltu hefo'r Gymuned – Defnyddio ein fan ymgysylltu i annog adrodd a meithrin ymddiriedaeth. · Diweddariadau Cymunedol – Cynnal cymhorthfa gymunedol olaf ym mis Mawrth er mwyn rhannu cynnydd a chanlyniadau.
Camau wedi'u cymryd 30 Ebrill 2026
Ymddygiad Gwrthgymdeithasol – Safleoedd Bysiau Stryd y Llyn, Caernarfon
Wedi'i roi 30 Ebrill 2026
'Da ni wedi gweld cynnydd mewn adroddiadau o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn safleoedd bysiau Caernarfon, yn enwedig gyda'r nos. Mae hyn yn gwneud i ddefnyddwyr trafnidiaeth gyhoeddus deimlo'n anniogel. Dyma'r hyn 'da ni'n ei wneud: · Patrolau Gwell – Cynyddu amlygrwydd yn ystod oriau brig er mwyn tawelu meddwl teithwyr. · Cydweithio – Cydweithio hefo darparwyr trafnidiaeth ar gyfer ymateb cydlynol. · Mesurau Ataliol – Edrych ar atebion hefo'r awdurdod lleol er mwyn lleihau digwyddiadau.
· Ymgysylltu hefo Ieuenctid – Sefydlu partneriaeth hefo asiantaethau'r trydydd sector i ddarparu gweithgareddau dargyfeirio i bobl ifanc. · Gorfodi Cadarn – Gweithredu yn erbyn troseddwyr mynych sy'n ymwneud hefo troseddau neu ymddygiad gwrthgymdeithasol parhaus.
Camau wedi'u cymryd 30 Ebrill 2026