Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Grŵp o swyddogion Heddlu Gogledd Cymru yw Tîm Plismona’r Gymdogaeth wedi eu neilltuo i wasanaethu eich cymuned drwy ganolbwyntio ar droseddau lleol, anhrefn a phroblemau ansawdd bywyd.
Mae’r tîm yn cynnwys swyddogion sy’n gweithio yn eich cymuned, gyda chefnogaeth gan swyddogion ychwanegol o’r ardal ehangach.
Rydym hefyd yn gweithio gydag awdurdodau, asiantaethau partneriaid, arweinyddion cymunedau a thrigolion i benderfynu ar flaenoriaethau plismona eich ardal.
Drwy weithio gyda’n gilydd ein nod yw canfod atebion i broblemau lleol drwy gynnal ffocws ehangach ar leihau troseddu ar draws Gogledd Cymru.
Gyrru Gwrthgymdeithasol - Caernarfon
Wedi'i roi 09 Gorffennaf 2026
Mae gohebiaeth diweddar gan gynrychiolwyr etholedig yn dangos bod gyrru gwrthgymdeithasol yn parhau yn bryder sylweddol i breswylwyr yng Nghaernarfon, yn enwedig o gwmpas Y Maes a’r cyffiniau. Mae’r Tîm Plismona Cymdogaethau wedi penodi Cwnstabl 3494 Jarvis er mwyn cydlynu ein hymateb i’r broblem hon. Mi fydd Cwnstabl Jarvis yn gweithio’n agos efo partneriaid a’r Uned Troseddau Ffyrdd er mwyn sicrhau ymateb plismona sy’n gymesur a nodi cyfleoedd gorfodi priodol. Mi wnawn ni barhau ymgysylltu efo swyddogion etholedig er mwyn cefnogi ymdriniaeth cydlynol a chyson.
Camau wedi'u cymryd 09 Gorffennaf 2026
Ymddygiad Gwrthgymdeithasol – Maes Parcio Aml-Lawr, Caernarfon
Wedi'i roi 09 Gorffennaf 2026
Mae adroddiadau ynglŷn ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn parhau, o fewn ac o gwmpas y maes parcio aml-lawr ac ardal y safle fysiau gerllaw. Mae Cwnstabl 3627 Jones wedi cael ei benodi er mwyn arwain ein hymateb ni i’r pryder hwn. Mae Cwnstabl Jones yn prysur weithio efo partneriaid, gan gynnwys Cyngor Gwynedd, er mwyn nodi ac ymyrryd ar y bobl sy’n gyfrifol. ‘Da ni’n annog preswylwyr a busnesau lleol effeithir arnyn nhw i ymgysylltu efo ni a rhannu gwybodaeth er mwyn cynorthwyo gwaith parhaus.
Camau wedi'u cymryd 09 Gorffennaf 2026
Ymddygiad Gwrthgymdeithasol – Stryd Fawr Bangor
Wedi'i roi 09 Gorffennaf 2026
Mae busnesau lleol wedi derbyn arolwg Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn ddiweddar gan y Tîm Plismona Cymdogaethau, er mwyn helpu nodi pryderon allweddol. Mi fydd yr adborth yn helpu llunio datrys problemau ar y cyd efo partneriaid, er mwyn ymdrin ag ymddygiadau sy’n effeithio ar y Stryd Fawr. Mi fydd patrolau penodol yn parhau yn ystod cyfnodau brig, a ‘da ni’n annog y gymuned i riportio digwyddiadau a chefnogi gweithgarwch gorfodi. Mi fyddwn ni’n parhau i ddefnyddio Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus lle nodir troseddau. Rydym yn parhau yn ein hymrwymiad i gefnogi’r fenter Gwarchod y Stryd Fawr, sy’n cael ei harwain gan Gyngor Dinas Bangor.
Camau wedi'u cymryd 09 Gorffennaf 2026