Stamp amser presennol: 18/07/26 21:20:50
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleol[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-location' for 'Welsh (United Kingdom)']UchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Allanfa Gyflym

Cwcis

Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.

Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.

Derbyn cwcis Gwrthod cwcis Addasu cwcis

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

North Wales Police crest

  • Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Camdriniaeth ddomestig
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Riportio bod person ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Sbeicio
    • Stelcio neu aflonyddu
    • Eiddo coll neu eiddo y daethpwyd o hyd iddo
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
    • Trosedd gasineb
  • Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Sut i roi gwybod i ni am weithgarwch terfysgol posibl
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith, protest neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
    • Cysylltu â ni i riportio trosedd, digwyddiad neu amheuaeth
    • Cysylltu â ni am rywbeth arall
  • Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Gwneud cais am iawndal am rywbeth mae’r heddlu wedi’i wneud
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Adborth am y wefan
    • Cwynion
    • Dweud diolch
  • Eich ardal chi
  1. Eich ardal chi
  2. ...
  3. De Sir y Fflint
Delwedd o Penyffordd

Penyffordd

Map Timau Plismona

Eich tîm plismona cymdogaeth

  • Amdanon ni
  • Ar y tîm
  • Cysylltwch â ni
  • Digwyddiadau a chyfarfodydd
  • Gorsafoedd, mannau cysylltu a swyddfeydd
  • Newyddion
about

Grŵp o swyddogion Heddlu Gogledd Cymru yw Tîm Plismona’r Gymdogaeth wedi eu neilltuo i wasanaethu eich cymuned drwy ganolbwyntio ar droseddau lleol, anhrefn a phroblemau ansawdd bywyd.

Mae’r tîm yn cynnwys swyddogion sy’n gweithio yn eich cymuned, gyda chefnogaeth gan swyddogion ychwanegol o’r ardal ehangach.

Rydym hefyd yn gweithio gydag awdurdodau, asiantaethau partneriaid, arweinyddion cymunedau a thrigolion i benderfynu ar flaenoriaethau plismona eich ardal.

Drwy weithio gyda’n gilydd ein nod yw canfod atebion i broblemau lleol drwy gynnal ffocws ehangach ar leihau troseddu ar draws Gogledd Cymru.

Troseddau a blaenoriaethau

  • Prif droseddau a riportiwyd yn yr ardal hon
  • Map troseddau
  • Ein blaenoriaethau
  • Blaenoriaeth:

    Camau a gymerwyd:

  • Blaenoriaeth:

    Ymdrin â throseddau manwerthu

    Wedi'i roi 09 Gorffennaf 2026

    Camau a gymerwyd:

    Nid troseddau heb ddioddefwr ydy troseddau manwerthu, ac mae timau De Sir y Fflint yn parhau ymrwymo i ymdrin â’r troseddau hyn yn rhagweithiol, gan ddefnyddio amryw o ddulliau. Nid yn unig bod troseddau manwerthu’n effeithio ar fân-werthwyr, ond hefyd ar weithwyr manwerthu ac aelodau’r cyhoedd sydd efallai’n gweld y digwyddiadau hyn. Mae siopladrad yn gyrru prisiau’n uwch i bawb. Mae troseddwyr yn aml yn ymwneud â ffrydiau troseddol eraill. Ymgyrch Belt ydy’n hymgyrch ni er mwyn ymdrin â’r troseddwyr hyn. Mae gynno ni dîm sy’n adolygu pob trosedd manwerthu sy’n cael ei riportio, ac maen nhw’n canolbwyntio ar gael tystiolaeth gynnar, fel CCC a datganiadau tyst, sy’n helpu er mwyn nodi troseddwyr a chreu pecynnau ar gyfer arést. Yna, mae’r tîm cymdogaethau’n gallu canolbwyntio ar weithredu’r pecynnau hyn a dod â throseddwyr i’r ddalfa. Mae hyn yn helpu sicrhau bod troseddwyr yn dod o flaen eu gwell a hynny cyn cyflawni troseddau pellach. Mae ymyrraeth gynnar hefyd yn helpu wrth adfer eiddo wedi’i ddwyn, sydd hefyd yn dystiolaeth dda wrth greu achos i’w roi gerbron y llys. Mae ymyraethau y tu allan i’r llys, fel Checkpoint, hefyd yn cael eu defnyddio pan fo troseddwyr yn fregus neu mewn perygl o droseddu pellach am resymau amrywiol. Mae’r cyfeirio hyn at lwybrau amgen efo lefel uchel o lwyddiant mewn atal troseddu yn y dyfodol, sydd hefyd yn lleihau’r galw. ‘Da ni hefyd yn gweithio’n agos efo asiantaethau partner er mwyn nodi troseddwyr, fel Heddlu Swydd Gaer, Parc Siopa Brychdyn a Sir y Fflint yn Erbyn Troseddau Busnes. ‘Da ni’n mynd i gyfarfodydd rheolaidd er mwyn trafod troseddau a adroddwyd ac adolygu fideo CCC, yn ogystal â threfnu dyddiau gweithredu, lle mae timau’n cael eu danfon mewn dillad plaen ac yn canolbwyntio ar ardaloedd o alw uchel.

    Camau wedi'u cymryd 09 Gorffennaf 2026

  • Blaenoriaeth:

    Trais yn erbyn merched a genethod

    Wedi'i roi 09 Gorffennaf 2026

    Camau a gymerwyd:

    Mae tîm plismona De Sir y Fflint wedi ymrwymo i ymdrin yn rhagweithiol â’r broblem trais yn erbyn merched a genethod, gan geisio lleihau troseddu drwy weithredu cadarnhaol ac addysg. Mae’r tîm Cymdogaethau yn cyflwyno sesiynau i fyfyrwyr y chweched ddosbarth yn Ysgol Alun, yr Wyddgrug ar hyn o bryd, gan addysgu a chynnig cyngor i ferched a bechgyn ar wahân. Mae hwn yn gynllun peilot ar hyn o bryd. Fodd bynnag, os bydd yr adborth gan yr ysgol a’r myfyrwyr yn gadarnhaol, mi fyddwn yn ymestyn y sesiynau i fyfyrwyr blynyddoedd 10, 11, 12 a 13. Nid yn unig mae hwn yn gyfle gwych er mwyn chwalu rhwystrau rhwng pobl ifanc a’r heddlu, gan eu caniatáu i sgwrsio efo ni mewn man cyfarwydd a diogel, mae hefyd yn caniatáu i ferched rannu profiadau personol o ran VAWG yn breifat drwy adborth. Yna, mae’r enghreifftiau’n cael eu rhannu efo’r bechgyn, er mwyn codi ymwybyddiaeth o'r ffordd mae eu hymddygiad a’u gweithrediadau yn gallu cael eu dehongli, a thrafod sut i osgoi hyn. Mae’r math hwn o addysg yn hynod o bwysig yn ystod y cyfnod hwn, gan bod llawer o’r myfyrwyr ar fin gadael cartref am y brifysgol. Mae’n hollbwysig eu bod nhw’n cydnabod y materion hyn er mwyn iddyn nhw nodi arwyddion cynnar o gysylltiadau niweidiol, a rhoi hyder iddyn nhw riportio unrhyw droseddau. Mae hefyd yn bwysig bod bechgyn yn gwybod yr hyn sy’n drosedd, gan ganolbwyntio ar wrth-misogyni ac ymwybyddiaeth o’r ffordd gall eu hymddygiad, er yn anfwriadol, effeithio ar bobl eraill. ‘Da ni hefyd yn dosbarthu posteri cynghorol i siopau a thafarndai lleol, gan sicrhau codi ymwybyddiaeth a chynnig tawelwch meddwl y byddwn ni’n gwrando ar ddioddefwyr.

    Camau wedi'u cymryd 09 Gorffennaf 2026

  • Blaenoriaeth:

    Ymdrin ag Ymddygiad Gwrthgymdeithasol

    Wedi'i roi 09 Gorffennaf 2026

    Camau a gymerwyd:

    Efo cyfnod yr haf ar y gorwel, mae tîm plismona De Sir y Fflint yn canolbwyntio ar leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ein hardaloedd ni, o bobl ifanc yn achosi niwsans i oedolion yn creu problemau cymdogol. Mae’r tywydd cynhesach yn naturiol yn achosi cynnydd yn y math hwn o ymddygiad, wrth i bobl dreulio mwy o amser y tu allan yn ystod y nosweithiau hirach a goleuach. Mi fydd ein hymdriniaeth ni’n cynnwys cynyddu patrolau mewn llecynnau, ymatebion rhagweithiol, ac atgyfeiriadau at asiantaethau partner. ‘Da ni’n parhau gweithio efo’n partneriaid tai er mwyn ymdrin â’r problemau. Rhyngom ni, dros y misoedd diweddar, ‘da ni wedi cyflwyno 7 ABC (cytundeb ymddygiad derbyniol) i nifer o breswylwyr er mwyn atal gwaethygiad yn yr ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae darparwyr cartrefi hefyd wedi derbyn rhybuddion tenantiaeth oherwydd ymddygiad gwrthgymdeithasol yn eu heiddo nhw. ‘Da ni’n parhau cynnal cyfarfodydd rheolaidd efo sawl asiantaeth partner, gan gynnwys Cartrefu Sir y Fflint, Clwyd Alyn, Cymru a’r Gorllewin, yn ogystal â thrwyddedu, Cyfiawnder Ieuenctid a SORTED Sir y Fflint. Mae ymweliadau a phatrolau ar y cyd yn cael eu cynnal pan mae’r galw’n uwch, ac mae’r timau ymateb a chymdogaethau efo cynllun ymateb penodol ar gyfer y meysydd hyn. Mae tîm cymdogaethau De Sir y Fflint hefyd yn gweithio’n agos efo safonau masnach er mwyn ymdrin â’r llefydd a’r safleoedd masnach sy’n cyfrannu at ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ein cymunedau ni, drwy rannu gwybodaeth a chudd-wybodaeth a helpu efo gwarantau. Mae’r tîm cymdogaethau hefyd yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd o ran y Cynlluniau Gwarchod Siopau a Thafarndai yn ardaloedd yr Wyddgrug a Bwcle. Mae’r cynllun tafarndai yn helpu ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n gysylltiedig ag alcohol a throseddu, drwy gydweithio efo’r tîm trwyddedu a Heddlu Gogledd Cymru. Mae unigolion problemus yn cael eu gwahardd, a ‘da ni’n helpu’n gilydd drwy rannu gwybodaeth a chudd-wybodaeth. Er bod y problemau hyn fel arfer oherwydd y lleiafrif o bobl, mae eu hymddygiad yn gysylltiedig ag alcohol yn aml yn ddi-baid. Ar hyn o bryd, mae 39 unigolyn wedi’i wahardd am resymau amrywiol. Mae’r Cynllun Gwarchod Siopau yn canolbwyntio ar ymddygiad gwrthgymdeithasol o fewn eiddo manwerthu, efo’r nod o nodi troseddwyr di-baid a chymryd camau cadarnhaol er mwyn lleihau hyn. Felly, mae’r staff manwerthu yn cael eu diogelu ac yn sicrhau bod pobl eraill yn gallu siopa heb ofn profi ymddygiad gwrthgymdeithasol.

    Camau wedi'u cymryd 09 Gorffennaf 2026

Llywio troedyn

Heddlu Gogledd Cymru

  • Cysylltu â ni
  • Gwasanaeth Sgwrsio
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Eich ardal chi
  • Gyrfaoedd
  • Amdanom ni
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Ystadegau a data
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Adborth

Partneriaid

  • Comisiynydd Heddlu a Throsedd
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2026​. Cedwir pob hawl.