Efo cyfnod yr haf ar y gorwel, mae tîm plismona De Sir y Fflint yn canolbwyntio ar leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ein hardaloedd ni, o bobl ifanc yn achosi niwsans i oedolion yn creu problemau cymdogol. Mae’r tywydd cynhesach yn naturiol yn achosi cynnydd yn y math hwn o ymddygiad, wrth i bobl dreulio mwy o amser y tu allan yn ystod y nosweithiau hirach a goleuach. Mi fydd ein hymdriniaeth ni’n cynnwys cynyddu patrolau mewn llecynnau, ymatebion rhagweithiol, ac atgyfeiriadau at asiantaethau partner. ‘Da ni’n parhau gweithio efo’n partneriaid tai er mwyn ymdrin â’r problemau. Rhyngom ni, dros y misoedd diweddar, ‘da ni wedi cyflwyno 7 ABC (cytundeb ymddygiad derbyniol) i nifer o breswylwyr er mwyn atal gwaethygiad yn yr ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae darparwyr cartrefi hefyd wedi derbyn rhybuddion tenantiaeth oherwydd ymddygiad gwrthgymdeithasol yn eu heiddo nhw. ‘Da ni’n parhau cynnal cyfarfodydd rheolaidd efo sawl asiantaeth partner, gan gynnwys Cartrefu Sir y Fflint, Clwyd Alyn, Cymru a’r Gorllewin, yn ogystal â thrwyddedu, Cyfiawnder Ieuenctid a SORTED Sir y Fflint. Mae ymweliadau a phatrolau ar y cyd yn cael eu cynnal pan mae’r galw’n uwch, ac mae’r timau ymateb a chymdogaethau efo cynllun ymateb penodol ar gyfer y meysydd hyn. Mae tîm cymdogaethau De Sir y Fflint hefyd yn gweithio’n agos efo safonau masnach er mwyn ymdrin â’r llefydd a’r safleoedd masnach sy’n cyfrannu at ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ein cymunedau ni, drwy rannu gwybodaeth a chudd-wybodaeth a helpu efo gwarantau. Mae’r tîm cymdogaethau hefyd yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd o ran y Cynlluniau Gwarchod Siopau a Thafarndai yn ardaloedd yr Wyddgrug a Bwcle. Mae’r cynllun tafarndai yn helpu ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n gysylltiedig ag alcohol a throseddu, drwy gydweithio efo’r tîm trwyddedu a Heddlu Gogledd Cymru. Mae unigolion problemus yn cael eu gwahardd, a ‘da ni’n helpu’n gilydd drwy rannu gwybodaeth a chudd-wybodaeth. Er bod y problemau hyn fel arfer oherwydd y lleiafrif o bobl, mae eu hymddygiad yn gysylltiedig ag alcohol yn aml yn ddi-baid. Ar hyn o bryd, mae 39 unigolyn wedi’i wahardd am resymau amrywiol. Mae’r Cynllun Gwarchod Siopau yn canolbwyntio ar ymddygiad gwrthgymdeithasol o fewn eiddo manwerthu, efo’r nod o nodi troseddwyr di-baid a chymryd camau cadarnhaol er mwyn lleihau hyn. Felly, mae’r staff manwerthu yn cael eu diogelu ac yn sicrhau bod pobl eraill yn gallu siopa heb ofn profi ymddygiad gwrthgymdeithasol.