Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ymdrin â throseddau manwerthu
Wedi'i roi 09 Hydref 2026
Bydd swyddogion yn cynyddu eu presenoldeb amlwg er mwyn ymdrin â throseddau manwerthu, drwy gynnal patrolau rhagweithiol mewn llecynnau allweddol. Y nod ydy ymdrin â throseddau sy’n effeithio ar fusnesau a’u lleihau. Byddwn hefyd yn parhau i weithio gyda’n partneriaid a rheolwyr manwerthu er mwyn atal a datgelu troseddau manwerthu, sy’n cael effaith sylweddol ar fusnesau wrth i gyfnod y Nadolig agosáu.
Camau wedi'u cymryd 09 Hydref 2026
Atal Troseddau
Wedi'i roi 09 Hydref 2026
Wrth i’r nosweithiau dywyllu, bydd swyddogion ymateb a chymdogaethau’n canolbwyntio ar addysgu preswylwyr ynglŷn ag atal troseddau drwy ddosbarthu taflenni a chynnal digwyddiadau dros dro efo’r tîm Dangos y Drws i Drosedd. Byddwn hefyd yn cynnal menter ar-lein er mwyn caniatáu i’r cyhoedd gysylltu efo ni ynglŷn â materion sy’n peri pryder yn eu cymunedau nhw. Bydd swyddogion cymdogaethau, gan gydweithio ag asiantaethau partner, yn cyfeirio’r pryderon hynny er mwyn datrys y problemau a amlygwyd.
Camau wedi'u cymryd 09 Hydref 2026
Ymdrin ag Ymddygiad Gwrthgymdeithasol
Wedi'i roi 09 Hydref 2026
Bydd swyddogion Patrôl a Chymdogaethau’n parhau ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol ledled yr ardal. Parhawn weithio efo’n partneriaid er mwyn nodi datrysiadau tymor hir i’r problemau hyn. Ymdrechwn i geisio cyfleoedd er mwyn atal ail-droseddu a chanolbwyntio ar ymyrraeth ac addysg.
Camau wedi'u cymryd 09 Hydref 2026