Rydym wedi cyflwyno 15 Cerdyn Melyn am ymddygiad gwrthgymdeithasol ar draws ein hardal, yn amrywio o bobl ifanc yn achosi diflastod i oedolion yn achosi problemau cymdogol. Mae llythyrau ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi’u cyflwyno i nifer o bobl sy’n byw yn Nhywyn, y Bermo a Blaenau Ffestiniog. Mae amryw o unigolion wedi derbyn Hysbysiadau Rhybudd Gwarchod Cymunedol yn Nolgellau, Blaenau a’r Bermo. O ganlyniad, nid oes digwyddiadau ymddygiad gwrthgymdeithasol eraill wedi cael eu hadrodd, sydd wedi adfer ymddiriedaeth a hyder i’r gymuned. Cafwyd nifer o ddigwyddiadau nodedig yn ardaloedd Dolgellau a Thrawsfynydd, lle ymdriniodd ein tîm â nifer o ddigwyddiadau ymddygiad gwrthgymdeithasol a chymerwyd symiau sylweddol o alcohol gan bobl o dan oed. Helpodd hyn sicrhau bod digwyddiadau’n rhedeg heb broblemau, yn ogystal â helpu atal troseddau. Mae holiaduron ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi’u dosbarthu yng Nghorris er mwyn deall unrhyw broblemau ymddygiad gwrthgymdeithasol neu broblemau sy’n effeithio’r gymuned, er mwyn i ni geisio eu datrys. Mae tri unigolyn wedi cael gwŷs i’r llys o ganlyniad i dorri Hysbysiadau Gwarchod Cymunedol ym Mlaenau. Mae’r unigolion hyn yn achosi problemau parhaus i'r cymunedau lleol. Mae swyddogion Cymdogaethau yn cyfarfod yn rheolaidd efo’n darparwyr tai lleol, er mwyn cryfhau gwaith cymunedol ymhellach wrth ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol. Cynhelir patrolau rheolaidd ym mhob ardal, gan gynnwys llecynnau gwyliau, er mwyn atal ymddygiad gwrthgymdeithasol. Cyflwynwyd nifer o Gytundebau Ymddygiad Derbyniol yn ardaloedd Porthmadog a Phwllheli, gan gynnwys Hysbysiadau Rhybudd Gwarchod Cymunedol efo’r nod o atal ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae gwaith pellach ar y gweill efo’n Swyddog Ymddygiad Gwrthgymdeithasol.