Da ni wedi cynnal gwarantau camddefnyddio cyffuriau ar draws y cymunedau, gan dargedu pobl o dan amheuaeth am gyflenwi cyffuriau mewn cyfeiriadau yn Abermaw, Blaenau Ffestiniog, Pwllheli a Phenrhyndeudraeth. Arweiniodd y rhain at atafaelu llawer iawn o gyffuriau yn ogystal ag arian parod, ffonau symudol, ac offer sy'n gysylltiedig hefo cyffuriau. 'Da ni wedi cael sawl diwrnod gweithredu hefo swyddogion Cymdogaethau allan yn ceisio targedu unigolion hysbys yn ardaloedd Abermaw, Blaenau a Phwllheli. Roedd hyn yn golygu bod nifer o bobl yn cael eu stopio a'u chwilio. O ganlyniad i'r rhagweithgarwch hwn, mae gynnon ni bellach nifer o bobl yn yr ardal sydd wedi'u rhyddhau o dan ymchwiliad am droseddau cyflenwi cyffuriau yn ogystal â sawl un sy'n cael eu herlyn am droseddau meddu cyffuriau. Mae gwaith yn mynd rhagddo o fewn ein timau ni ac hefo asiantaethau eraill er mwyn datblygu ein cudd-wybodaeth a'n gwybodaeth ni am gyffuriau yn ein cymunedau ni. 'Da ni wedi cael cyfarfodydd hefo dalwyr trwyddedau a'n Rhwydweithiau Unigol Allweddol yn y Bala ac Abermaw er mwyn trafod sut 'da ni'n parhau i fynd i'r afael hefo cyflenwi cyffuriau.