Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ymddygiad Gwrthgymdeithasol a Gweithgarwch Troseddol
Wedi'i roi 09 Hydref 2026
Mae swyddogion Patrôl a Chymdogaethau Cefn Gwlad Conwy a Sir Ddinbych wedi ymrwymo i ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol drwy fynd i’r afael â’r achosion sylfaenol. Defnyddiwyd gorchmynion cau mewn dau eiddo yn Ninbych, lle profwyd lefelau uchel o anrhefn. Mae’r camau hyn yn helpu diogelu aelodau bregus o'r gymuned ac yn dangos na fydd ymddygiad troseddol yn cael ei oddef. Bu cynnydd yn y defnydd o hysbysiadau gwarchod gymunedol drwy gydweithio â’n asiantaethau partner. Mae defnyddio’r hysbysiadau hyn ynghyd â Gorchmynion Ymddygiad Cymunedol wedi dangos eu bod yn hynod o effeithiol, gan leihau lefelau ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddol mynych yn sylweddol yn ardaloedd Dinbych, Rhuthun a Loggerheads.
Camau wedi'u cymryd 09 Hydref 2026
Cyffuriau
Wedi'i roi 09 Hydref 2026
Mae gwarantau cyffuriau rhagweithiol yn parhau tarfu ar weithgarwch gwerthwyr cyffuriau, gyda chanlyniadau cadarnhaol wedi'u sicrhau mewn cyfeiriadau yn Rhuthun, Dinbych a Chapel Curig dros y misoedd diwethaf. O ganlyniad i droseddau sy’n gysylltiedig â gwerthu cyffuriau, mae nifer o arestiadau wedi’u gwneud yn ardal Dinbych. Gan weithio ynghyd â ‘Gweithdy Dinbych’, mae swyddogion cymdogaethau wedi ymweld ag ysgolion uwchradd lleol er mwyn ymgysylltu â disgyblion a chodi ymwybyddiaeth o beryglon defnyddio Cetamin.
Camau wedi'u cymryd 09 Hydref 2026
Amlygrwydd, Ymgysylltu Cymunedol a Gwaith Partneriaeth
Wedi'i roi 09 Hydref 2026
Mae atal troseddau a bod yn amlwg yn y gymuned yn mynd law yn llaw. Mae swyddogion patrôl a chymdogaethau felly’n treulio cymaint o amser â phosib allan yn y cymunedau maen nhw’n eu gwasanaethu. Mae swyddogion yn parhau ymdrin â ‘llecynnau’ sydd wedi’u hamlygu gan ddata dadansoddol fel ardaloedd problemus sy’n profi’r nifer fwyaf o ddigwyddiadau a adroddwyd.
Dros fisoedd yr haf, mae ein trefi wedi cynnal digwyddiadau sydd wedi denu torfeydd mawr. Trefnwyd ymgyrchoedd er mwyn rheoli digwyddiadau cerddoriaeth byw yn Llangollen a Rhuthun, ynghyd â sioeau amaethyddol blynyddol ledled yr ardal. Mae swyddogion cymdogaethau’n parhau ymgysylltu gydag aelodau’r cyhoedd drwy gymorthfeydd galw heibio wedi’u trefnu gan yr heddlu (Paned efo Plismon), sy’n agored i unrhyw un sydd yn dymuno codi pryderon. Yn dilyn llwyddiannau blaenorol, bydd ymgyrchoedd ar y cyd gyda Mewnfudo a Safonau Masnach yn parhau i ymdrin ag achosion sy'n ymwneud ag eiddo busnes yn yr ardal. Mae swyddogion cymdogaethau yn parhau gweithio’n agos efo cymdeithasau tai a gwasanaethau iechyd meddwl er mwyn ymdrin ag achosion mynych o niwsans i’r gymuned.
Camau wedi'u cymryd 09 Hydref 2026