Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
I gysylltu â'ch tîm lleol, defnyddiwch ein adnodd cysylltu ar-lein cyflym a syml.
Byddwn yn gofyn ychydig o gwestiynau i sicrhau bod eich ymholiad yn cyrraedd y lle iawn.
Canol Tref y Rhyl
Wedi'i roi 30 Ebrill 2026
Mae ymdrin hefo ymddygiad gwrthgymdeithasol yng nghanol tref y Rhyl yn parhau i fod yn flaenoriaeth i'r tîm plismona cymdogaeth (TCD). Mae'r TCD yn cydweithio'n agos hefo asiantaethau partner a chyfiawnder ieuenctid er mwyn ymdrin hefo ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n ymwneud hefo pobl ifanc. 'Da ni hefyd yn parhau gorfodi'r Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus (PSPO) er mwyn atal ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddau sy'n gysylltiedig hefo yfed ar y stryd.
Camau wedi'u cymryd 30 Ebrill 2026
Stryd Fawr a Pharc Manwerthu Prestatyn
Wedi'i roi 30 Ebrill 2026
Mae cynlluniau patrôl ar waith ar gyfer yr ardal hon, sy’n cynnwys adnoddau plismona penodol drwy Ymgyrch Restore. Mae ein timau wedi ymrwymo i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddau manwerthu yn yr ardal hon.
Camau wedi'u cymryd 30 Ebrill 2026
Troseddau Manwerthu
Wedi'i roi 30 Ebrill 2026
Mae ymdrin hefo a lleihau troseddau manwerthu ym mharc manwerthu Cei Marina yn flaenoriaeth i'r tîm plismona cymdogaethau. 'Da ni wedi creu cynlluniau patrôl i fod yn weladwy yn y parc ar adegau allweddol, tra hefyd yn defnyddio swyddogion dillad plaen i dargedu lladron siopau. Mae ein hyb atal hefyd yn cydweithio hefo mânwerthwyr i roi cyngor atal trosedd.
Camau wedi'u cymryd 30 Ebrill 2026
Abergele a Phensarn
Wedi'i roi 30 Ebrill 2026
Yn dilyn pryder cymunedol am ymddygiad gwrthgymdeithasol ieuenctid ym mharc Pentre Mawr yn Abergele, mae ein Tîm Cymdogaethau ni wedi bod yn cynyddu patrolau amlwg iawn yn yr ardal, yn ogystal â chydweithio hefo asiantaethau partner er mwyn ymdrin hefo'r materion hyn. Mae hyn wedi cynnwys cydweithio, cynyddu sylw CCC, gwella goleuadau ac arwyddion. Mae ymgysylltu ieuenctid mewn ysgolion ac yn y gymuned hefyd wedi cynyddu er mwyn addysgu ac atal troseddu.
Camau wedi'u cymryd 30 Ebrill 2026
Ymgyrch Cadence
Wedi'i roi 30 Ebrill 2026
Mae PC Catrin Hughes wedi creu ymgyrch Cadence. Mae hon yn ymgyrch sy'n canolbwyntio ar y gymuned, hefo'r nod o hyrwyddo diogelwch, lles a hyder merched mewn mannau cyhoeddus, wrth gryfhau ymddiriedaeth ac ymgysylltiad rhwng yr Heddlu a'r gymuned leol.
Camau wedi'u cymryd 30 Ebrill 2026