Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Grŵp o swyddogion Heddlu Gogledd Cymru yw Tîm Plismona’r Gymdogaeth wedi eu neilltuo i wasanaethu eich cymuned drwy ganolbwyntio ar droseddau lleol, anhrefn a phroblemau ansawdd bywyd.
Mae’r tîm yn cynnwys swyddogion sy’n gweithio yn eich cymuned, gyda chefnogaeth gan swyddogion ychwanegol o’r ardal ehangach.
Rydym hefyd yn gweithio gydag awdurdodau, asiantaethau partneriaid, arweinyddion cymunedau a thrigolion i benderfynu ar flaenoriaethau plismona eich ardal.
Drwy weithio gyda’n gilydd ein nod yw canfod atebion i broblemau lleol drwy gynnal ffocws ehangach ar leihau troseddu ar draws Gogledd Cymru.
Canol Tref y Rhyl
Wedi'i roi 09 Hydref 2026
Mae ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn parhau bod yn flaenoriaeth i’r Tîm Plismona Cymdogaethau (TPC). Mae’r TPC yn gweithio’n agos efo asiantaethau partner a’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid er mwyn ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n ymwneud â phobl ifanc. Mae hyn yn cynnwys y defnydd gwrthgymdeithasol o feiciau a beiciau trydan yn y parthau cerddwyr. Rydym hefyd yn parhau gorfodi’r Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus er mwyn atal ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddau sy’n gysylltiedig ag yfed alcohol ar y stryd. Mae’r heddlu’n defnyddio data ‘llecynnau’ er mwyn sicrhau bod swyddogion yn y lle iawn ar yr adegau iawn.
Camau wedi'u cymryd 09 Hydref 2026
Troseddau Manwerthu
Wedi'i roi 09 Hydref 2026
Mae ymdrin efo a lleihau troseddau manwerthu ym mharc manwerthu Cei Marina yn flaenoriaeth i'r tîm plismona cymdogaethau. 'Da ni wedi creu cynlluniau patrôl i fod yn weladwy yn y parc ar adegau allweddol, tra hefyd yn defnyddio swyddogion dillad plaen i dargedu lladron siopau. Mae ein hyb atal hefyd yn cydweithio efo mân-werthwyr i roi cyngor atal trosedd a chreu dulliau newydd er mwyn atal a lleihau troseddau siopladrad. Mae HGC yn defnyddio datblygiadau mewn technoleg er mwyn sicrhau bod troseddwyr yn cael eu nodi a’u rheoli’n fwy effeithiol nag o'r blaen.
Camau wedi'u cymryd 09 Hydref 2026
Abergele a Phensarn
Wedi'i roi 09 Hydref 2026
Yn dilyn pryder cymunedol am ymddygiad gwrthgymdeithasol ieuenctid ym mharc Pentre Mawr yn Abergele, mae ein Tîm Cymdogaethau ni wedi bod yn cynyddu patrolau amlwg iawn yn yr ardal, yn ogystal â chydweithio hefo asiantaethau partner er mwyn ymdrin hefo'r materion hyn. Mae hyn wedi cynnwys cydweithio, cynyddu sylw CCC, gwella goleuadau ac arwyddion. Mae ymgysylltu ieuenctid mewn ysgolion ac yn y gymuned hefyd wedi cynyddu er mwyn addysgu ac atal troseddu.
Camau wedi'u cymryd 09 Hydref 2026
Stryd Fawr a Pharc Manwerthu Prestatyn
Wedi'i roi 09 Hydref 2026
Mae cynlluniau patrôl ar waith ar gyfer yr ardal hon, sydd hefyd yn cynnwys adnoddau heddlu penodol. Mae ein timau’n ymroddgar i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddau manwerthu ymhellach.
Camau wedi'u cymryd 09 Hydref 2026