Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Gwaith partneriaeth hefo partneriaid mewnol ac allanol
Wedi'i roi 30 Ebrill 2026
Ceisio defnyddio'r cysylltiadau agos a grëwyd hefo partneriaid mewnol ac allanol. Mae'r rhain yn cynnwys safonau masnach, mewnfudo a'r gwasanaeth tân er mwyn creu ymdriniaeth un tîm o ddatrys problemau yn ein cymunedau lleol ni.
Camau wedi'u cymryd 30 Ebrill 2026
Mwy o amlygrwydd yn y gymuned
Wedi'i roi 30 Ebrill 2026
Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol gan ieuenctid yn LLANDUDNO wedi arwain at Ymgyrch Khillari yn cael ei chyflwyno i'r dref yn ystod gyda'r nosau hefo nifer cynyddol o swyddogion ar batrôl. Y nod ydy atal ac aflonyddu ar ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae presenoldeb cynyddol yr heddlu hefyd yn rhoi sicrwydd i'r cyhoedd. Ceir plismona hefo polisi gorfodi teg ond cadarn lle cymerir camau cadarnhaol pe bai anhrefn yn codi. Bydd gorchmynion gwasgaru hefyd yn cael eu defnyddio lle bo angen. Mae gweithio mewn partneriaeth hefo asiantaethau eraill gan gynnwys adeiladau busnes hefyd wrth wraidd yr ymateb hwn gan yr heddlu.
Camau wedi'u cymryd 30 Ebrill 2026
Darparu gwasanaeth gwych i gymunedau a dioddefwyr
Wedi'i roi 30 Ebrill 2026
Cynnydd yn nifer y digwyddiadau ymgysylltu cymunedol gan gynnwys Paned efo Plismon ym mhob ward yn ardal Gorllewin Conwy, llawer ohonynt hefo cynghorwyr lleol i ddarparu gwasanaeth rhagorol i'r gymuned a meithrin cysylltiadau cymunedol. Parhau cynnal cysylltiad aml a sylwgar hefo dioddefwyr er mwyn creu ymddiriedaeth yn y cymunedau 'da ni'n eu gwasanaethu.
Camau wedi'u cymryd 30 Ebrill 2026