Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Grŵp o swyddogion Heddlu Gogledd Cymru yw Tîm Plismona’r Gymdogaeth wedi eu neilltuo i wasanaethu eich cymuned drwy ganolbwyntio ar droseddau lleol, anhrefn a phroblemau ansawdd bywyd.
Mae’r tîm yn cynnwys swyddogion sy’n gweithio yn eich cymuned, gyda chefnogaeth gan swyddogion ychwanegol o’r ardal ehangach.
Rydym hefyd yn gweithio gydag awdurdodau, asiantaethau partneriaid, arweinyddion cymunedau a thrigolion i benderfynu ar flaenoriaethau plismona eich ardal.
Drwy weithio gyda’n gilydd ein nod yw canfod atebion i broblemau lleol drwy gynnal ffocws ehangach ar leihau troseddu ar draws Gogledd Cymru.
Ymddygiad Gwrthgymdeithasol
Wedi'i roi 09 Hydref 2026
Patrolio llecynnau lle mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn broblem, a chymryd camau cadarn pan gaiff digwyddiadau eu riportio, er mwyn atal problemau rhag gwaethygu neu ddigwydd eto. Gweithio law yn llaw efo asiantaethau partner ar brosiectau i helpu pobl ifanc, a chydweithio efo busnesau lleol i drefnu patrolau yn yr ardal.
Camau wedi'u cymryd 09 Hydref 2026
Dwyn pethau drud o siopau
Wedi'i roi 09 Hydref 2026
Gweithio efo busnesau lleol er mwyn lleihau nifer yr achosion o ddwyn pethau drud o siopau yn ardal Gorllewin Conwy wrth i’r Nadolig nesáu. Bydd pwyslais parhaus ar ymdrin efo grwpiau troseddol trefnedig sy’n teithio i’r ardal drwy’r rhwydweithiau ffyrdd a rheilffyrdd er mwyn troseddu. Bydd mwy o batrolau mewn ardaloedd prysur dros gyfnod y Nadolig.
Camau wedi'u cymryd 09 Hydref 2026
Gyrru Gwrthgymdeithasol a Throseddau Cysylltiedig
Wedi'i roi 09 Hydref 2026
Nodi ardaloedd lle mae grwpiau mawr o gerbydau yn ymgynnull er mwyn cyflawni troseddau fel gyrru gwrthgymdeithasol a throseddau cysylltiedig eraill. Cynnal ymgyrchoedd ar y cyd efo’n Timau Troseddau Ffyrdd mewn ardaloedd lle mae problemau’n codi. Defnyddio hysbysiadau Adran 59 diwygiedig er mwyn atafaelu cerbydau lle bo hynny’n briodol.
Camau wedi'u cymryd 09 Hydref 2026