Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Sbecian yw pan fydd rhywun yn cael pleser rhywiol o wylio, tynnu lluniau neu recordio pobl eraill yn gwneud rhywbeth sydd fel arfer yn breifat, er enghraifft pan fyddan nhw’n noeth neu'n cael rhyw.
Mae sbecian yn drosedd os caiff ei wneud heb ganiatâd y person. Mae'r drosedd yn cynnwys tynnu lluniau neu ffilmio pobl eraill er pleser rhywiol rhywun arall.
Mae 'uwchsbecian’ yn derm anffurfiol am fath o sbecian pan fydd rhywun yn defnyddio offer fel camera neu ffôn symudol i dynnu lluniau neu fideos o dan ddillad person, heb eu caniatâd nhw.
Nid yw'n gyfyngedig i fenywod sy'n gwisgo sgertiau neu ffrogiau ac mae'n gymwys i unrhyw un sy'n gwisgo cilt, siorts, trowsus neu unrhyw ddillad eraill.
Mae'n digwydd yn aml mewn mannau gorlawn fel cludiant cyhoeddus neu wyliau cerddoriaeth, sy'n gallu ei gwneud yn anodd sylwi arno.
Mae uwchsbecian yn drosedd p'un a yw'n cael ei wneud er pleser rhywiol neu i fychanu rhywun neu beri gofid iddyn nhw.
Efallai y byddwch yn teimlo pryder, ofn, diffyg ymddiriedaeth neu fel pe bai rhywun wedi ymyrryd â chi. Neu efallai na fyddwch chi’n teimlo braw neu ofid o gwbl. Does dim ffordd gywir neu anghywir o deimlo.
Mae'n cymryd dewrder i riportio rhywbeth anghyffyrddus, ond os ydych chi’n teimlo y gallwch chi siarad â ni, fe fyddwn ni bob amser yn eich cymryd chi o ddifrif.
Gall eich adroddiad ein helpu i atal hyn rhag digwydd i rywun arall. Weithiau mae pobl sy'n cyflawni'r math hwn o drosedd yn mynd ymlaen i gyflawni troseddau mwy difrifol.
Ydy hi’n teimlo y gallai'r sefyllfa droi’n gas neu’n dreisgar yn fuan iawn? Oes rhywun mewn perygl uniongyrchol? Oes arnoch chi angen cymorth ar unwaith? Os felly, galwch 999 nawr.
Os oes gennych chi nam ar y clyw neu'r lleferydd, defnyddiwch ein gwasanaeth ffôn testun 18000 neu anfonwch neges destun aton ni ar 999 os ydych wedi cofrestru ymlaen llaw gyda'r gwasanaeth neges destun brys.
Os nad yw'n argyfwng, gallwch riportio uwchsbecian neu fathau eraill o sbecian:
Elusen annibynnol sy'n helpu dioddefwyr troseddau, eu teulu neu eu ffrindiau.