Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae modurwyr ledled Gogledd Cymru yn cael eu hannog i sicrhau bod eu teiars yn gyfreithlon, yn addas ar gyfer y ffordd fawr ac yn barod ar gyfer misoedd heriol y gaeaf, wrth i dymheredd oerach, ffyrdd gwlyb a nosweithiau tywyllach gynyddu pwysigrwydd diogelwch cerbydau.
Mae mis Hydref yn Fis Cenedlaethol Diogelwch Teiars - ymgyrch flynyddol sydd wedi’i drefnu gan elusen TyreSafe sy’n annog defnyddwyr y ffyrdd i checio cyflwr teiars yn rheolaidd.
Er bod yr ymgyrch yn codi ymwybyddiaeth drwy addysg, bydd unrhyw un sy’n cael eu canfod yn gyrru hefo teiars diffygiol yn wynebu tri phwynt cosb ar eu trwydded a dirwy hyd at £2,500 fesul teiar.
Gyda chostau byw yn parhau i roi pwysau ar gyllidebau cartrefi, mae Heddlu Gogledd Cymru yn cydnabod bod llawer o fodurwyr yn wynebu penderfyniadau ariannol anodd. Fodd bynnag, mae gyrwyr yn cael eu hatgoffa nad yw diogelwch teiars yn faes lle mae’n ddiogel i dorri corneli.
Teiars yw’r unig ran o gerbyd sydd mewn cysylltiad uniongyrchol â’r ffordd. Gall teiars wedi’i gwisgo, wedi’i difrodi neu wedi’i chwythu’n anghywir leihau’r gafael, cynyddu pellteroedd stopio a gwneud hi’n anoddach i gynnal rheolaeth, yn enwedig mewn amodau gwlyb, rhewllyd neu lithrig.
Anogir modurwyr i gymryd ychydig funudau i wneud rhai gwiriadau syml cyn cychwyn:
Dywedodd Rhingyll Medwyn Williams o Uned Troseddau’r Ffyrdd, Heddlu Gogledd Cymru: “Rydym yn gwerthfawrogi bod costau byw cynyddol yn rhoi llawer o bobl o dan bwysau ariannol sylweddol, a gall newid teiars fod yn gost annymunol. Fodd bynnag, mae teiars yn hanfodol i ddiogelwch eich cerbyd, eich teithwyr a phawb arall sy’n defnyddio’r ffyrdd.
“Mae’r gaeaf yn dod â heriau ychwanegol i fodurwyr, gyda glaw, dŵr sy’n sefyll a rhew i gyd yn cynyddu’r risgiau ar ein ffyrdd. Gall cael teiars sy’n gyfreithlon, wedi’i chwythu’n briodol ac mewn cyflwr da wneud gwahaniaeth go iawn.
“Rydym yn gofyn i bob gyrrwr gymryd ychydig funudau i wirio eu teiars cyn i’r tywydd gaeafol gyrraedd. Os nad ydych yn siŵr o gyflwr eich teiars, gofynnwch am gyngor gan arbenigwr teiars cyfrifol.
“Peidiwch ag aros nes bydd teiar yn methu neu hyd nes y byddwch mewn gwrthdrawiad i weithredu. Gall fod yn anodd rheoli cost newid teiar, ond gall canlyniadau gyrru ar deiars anniogel fod yn llawer mwy.
“Rhaid i ddiogelwch ddod yn gyntaf. Gallai gwiriad syml heddiw helpu i atal digwyddiad difrifol yfory.
Ychwanegodd: “Mae’n hanfodol fod gyrwyr yn ymwybodol mai eu cyfrifoldeb nhw ydy sicrhau fod y cerbyd maent yn ei ddefnyddio yn gyfreithlon cyn mynd ar eu siwrne, felly byddwn yn cynnal rhagor o wiriadau dirybudd dros yr wythnosau i ddod.”
Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth am gerbydau y maen nhw’n credu eu bod yn cael eu gyrru mewn cyflwr peryglus riportio hynny i Heddlu Gogledd Cymru ar 101, neu gellir rhoi gwybod drwy’r cyfleuster sgwrsio’n fyw ar y we: http://www.north-wales.police.uk/contact/chat-support.aspx
Mae rhagor o wybodaeth am Fis Teiars Diogel ar gael ar y wefan www.tyresafe.org www.tyresafe.org