Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae swyddogion Wrecsam yn parhau i gefnogi clwb rhedeg lleol er mwyn helpu lleihau pryderon am ddiogelwch wrth redeg trwy fisoedd y gaeaf.
Fe ddaw fel rhan o fenter ar y cyd barhaus hefo partneriaid i fynd i'r afael hefo achosion o drais yn erbyn merched a genethod trwy addysg ac atal trosedd. Gallwch ddarllen mwy amdano yma - Ymgyrch Virtue | Heddlu Gogledd Cymru
Cynhaliwyd digwyddiad ymwybyddiaeth lle rhoddodd swyddogion gyngor diogelwch i redwyr yn y ddinas hefo Clwb Lloeren Fordy Runs Wrecsam. Yn cael ei gynnal gan Jemma Williams, lansiwyd y clwb fis Tachwedd diwethaf ac mae wedi gweld nifer cynyddol o redwyr a cherddwyr yn cyfarfod bob wythnos i gwblhau cylchdaith 5K yng nghanol y ddinas.
Cynhaliwyd y digwyddiad ymwybyddiaeth yn dilyn lansio ymgyrch Own the Night 2026 Athletau Cymru, gan ddod â rhedwyr, clybiau, cymunedau a chynghreiriaid at ei gilydd i godi ymwybyddiaeth o ddiogelwch merched wrth redeg.
Rhoddwyd eitemau diogelwch i redwyr a aeth i'r digwyddiad yng nghanol y ddinas, tra bod rhai swyddogion yn rhedeg hefo'r clwb, gan wrando ar bryderon a rhoi sicrwydd i'r rhedwyr y bydd unrhyw ymddygiad digroeso a brofwyd wrth redeg allan yn cael ei gymryd o ddifrif.
Dywedodd Rhingyll Sarah Hughes-Jones: "'Da ni wedi ymrwymo sicrhau bod pawb yn teimlo'n saff wrth ymarfer corff mewn mannau cyhoeddus. 'Da ni'n gobeithio creu amgylchfyd yn ninas Wrecsam lle gall pob merch fwynhau rhedeg heb bryderon am eu diogelwch nhw, a theimlo eu bod nhw'n cael eu parchu, eu helpu a'u gwarchod."
Ychwanegodd Jemma: "Dwi'n gwybod bod rhedeg ar eich pen ei hun, yn enwedig yn ystod misoedd y gaeaf, yn gallu teimlo'n frawychus. Efallai y byddwch chi'n poeni am ddiogelwch, yn teimlo'n nerfus am ymuno hefo grŵp, neu'n meddwl dydych chi ddim ddigon heini i redeg hefo pobl eraill. Ond dyna'n union pam mae clybiau fel ein un ni mor bwysig.
"Mae grymuso merched a'u helpu nhw deimlo'n ddigon hyderus i fynd allan a rhedeg yn hynod bwysig i mi. Ni ddylai unrhyw ferch deimlo bod yn rhaid iddi roi'r gorau i rywbeth mae hi'n ei fwynhau, neu osgoi ymarfer corff yn yr awyr agored, oherwydd nad ydy hi'n teimlo'n saff wrth redeg ar ei phen ei hun.
"Mae rhedeg hefo'n gilydd yn golygu dydyn yn wynebu'r nosweithiau tywyllach ar ein pen ein hunain. Mae'n rhoi hyder i bobl fynd allan a pharhau gwneud rhywbeth maen nhw'n ei fwynhau trwy gydol y gaeaf."
Bydd swyddogion a staff yn parhau i gefnogi digwyddiadau ar draws yr heddlu dros fisoedd y gaeaf.
Anogir unrhyw un sy'n profi aflonyddu neu fygythiad wrth redeg allan roi gwybod am unrhyw bryderon i'r heddlu ar y cyfle cyntaf.
Er mwyn darganfod mwy am yr ymgyrch Own the Night, ewch ar wefan Athletau Cymru ar: https://www.welshathletics.org/en/page/own-the-night

Mae Fordy Runs Wrecsam yn rhad ac am ddim i ymuno ac yn cyfarfod bob dydd Mercher rhwng 6.15p.m. a 6:30p.m. ym maes parcio'r Range yn Wrecsam.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar dudalen Facebook Fordy Runs Wrecsam.