Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Atafaelwyd enillion troseddol dros £5,000 dyn o Fae Cinmel a garcharwyd am droseddau cyflenwi cyffuriau.
Mae Gareth Hastie, 45, heb gartref sefydlog, ar hyn o bryd yn treulio dedfryd o chwe blynedd a phedwar mis o garchar ar ôl cael ei garcharu ym mis Chwefror am feddu cocên hefo'r bwriad o gyflenwi.

Ddydd Mercher, clywodd Llys y Goron yr Wyddgrug, mewn gwrandawiad o dan y Ddeddf Enillion Troseddau (POCA), fod arian gwerth £5,100 a atafaelwyd gan swyddogion a oedd yn ymchwilio i'w droseddau i'w fforffedu.
Amcangyfrifodd yr heddlu fod gwerth llawn ei droseddau yn fwy na £94,000.
Gorchmynnwyd dinistrio cynwysyddion hefo cocên a sylweddau fel blociau, creigiau a phowdr gwyn, tair clorian a ffôn symudol hefyd o dan Adran 27 Deddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971.
Wrth siarad ar ôl iddo gael ei ddedfrydu ym mis Chwefror, dywedodd Ditectif Arolygydd Kris Williams o'r Tîm Troseddau Blaenoriaethol Canolog: "Mae atafaelu bron i hanner cilogram o'r cyffur dosbarth A hwn yn dangos tarfu sylweddol ar y gadwyn gyflenwi. Mae gwerthu cyffuriau yn dod â chamfanteisio, trais a gofid i'n cymunedau ni.
"Byddwn yn mynd ar ôl y rhai sy'n ceisio elwa o droseddoldeb o'r fath a byddwn yn defnyddio'r holl offer sydd ar gael i ni i amddifadu troseddwyr o unrhyw asedau y maent wedi'u caffael o ganlyniad i'w gweithgareddau."