Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn dilyn y llifogydd sydyn yn ardal Rasuwa ac ardal y ffin rhwng Nepal a Tsieina ar 26 Awst, mae llywodraeth Nepal wedi sefydlu rhif ffôn brys di-doll yn Nepaleg (1234), a llinell gymorth bwrpasol (1144) sydd ar gael yn Nepal. Os ydych chi wedi'ch effeithio ac angen cymorth gan lywodraeth y DU, ffoniwch:

Mae dyn 38 oed wedi cael ei garcharu am gyflenwi symiau sylweddol o getamin, MDMA a chanabis.
Ymddangosodd Steven Moorcroft, o Parker Close, Sefton, i'w ddedfrydu yn Llys y Goron yr Wyddgrug ar 19 Awst ar ôl cyfaddef yn flaenorol ei fod yn ymwneud hefo cyflenwi cyffuriau dosbarth A a B.
Dros gyfnod o ddau fis, roedd Moorcroft yn gwerthu'r cyffuriau i lanc 16 oed a fyddai'n teithio i Lannau Mersi o Gonwy, lle byddai'n eu gwerthu ymlaen.
Ar 5 Awst 2025, gweithredodd swyddogion warant yng nghyfeiriad y llanc lle atafaelwyd cyffuriau, arian parod a ffonau.
Roedd archwiliadau o'r ffôn yn cysylltu Moorcroft a'r llanc hefo symiau mawr o gyffuriau.
Ar 1 Ebrill 2026, arestiwyd Moorcroft.
Cafodd ei garcharu am naw mlynedd a naw mis.
Cafodd y llanc, na ellir ei enwi am resymau cyfreithiol, ei ddedfrydu yn y llys ieuenctid yn gynharach eleni.
Dywedodd Ditectif Brif Arolygydd Simon Kneale: "Moorcroft ydy'r chweched un a gafwyd yn euog fel rhan o Ymgyrch Noriker, sef ymchwiliad cymhleth o dan arweiniad y Tîm Troseddau Blaenoriaethol Canolog i gyflenwi cyffuriau Dosbarth A a B rhwng Gogledd Cymru a Glannau Mersi.
"Byddwn ni'n parhau i fynd ar drywydd y rhai sy'n gwerthu cyffuriau ar ein strydoedd ni ac yn achosi poen i'n cymunedau lleol ni.
"Fel rhan o'r ymchwiliad hwn 'da ni wedi diogelu plant a phobl fregus a oedd yn cael eu targedu i gyflenwi cyffuriau iddyn nhw.
"Nid oes lle i droseddau trefnedig yn ein cymunedau ni, a byddwn ni'n mynd ar drywydd y rhai sy'n cymryd rhan yn y math hwn o droseddu.
"'Da ni'n diolch i'r gymuned am eu help a'u gwybodaeth nhw a byddem yn annog unrhyw un sydd hefo gwybodaeth am gyffuriau yn eu hardal nhw i gysylltu hefo'r heddlu neu wneud adroddiad dienw i Crimestoppers ar 0800 555 111."
Mae help ar gael i unrhyw un yr effeithir arnyn nhw wrth ddefnyddio cetamin. Darganfyddwch fwy am yr ymgyrch aml-asiantaeth I Wish Someone Had Told Me.