Stamp amser presennol: 15/08/2026 21:34:01
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleol[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-location' for 'Welsh (United Kingdom)']UchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Allanfa Gyflym

Cwcis

Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.

Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.

Derbyn cwcis Gwrthod cwcis Addasu cwcis

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

North Wales Police crest

  • Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Camdriniaeth ddomestig
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Riportio bod person ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Sbeicio
    • Stelcio neu aflonyddu
    • Eiddo coll neu eiddo y daethpwyd o hyd iddo
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
    • Trosedd gasineb
  • Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Sut i roi gwybod i ni am weithgarwch terfysgol posibl
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith, protest neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
    • Cysylltu â ni i riportio trosedd, digwyddiad neu amheuaeth
    • Cysylltu â ni am rywbeth arall
  • Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Gwneud cais am iawndal am rywbeth mae’r heddlu wedi’i wneud
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Adborth am y wefan
    • Cwynion
    • Dweud diolch
  • Eich ardal chi
  1. ...
  2. Newyddion

Tîm Ymchwilio i Gam-drin Plant yn annog rhieni i feddwl am ddiogelwch ar-lein dros yr haf

Cynnwys y prif erthygl

Newyddion
Cyhoeddwyd: 14:04 12/08/2026

Mae tîm plismona arbenigol sy’n gweithio i ddal unigolion peryglus ar-lein yn annog rhieni a gofalwyr i ystyried diogelwch ar-lein eu plant yn ystod yr haf.

Mae’r Tîm Ymchwilio i Gam-drin Plant Ar-lein (OCAIT) yn gweithio bob dydd i atal cam-drin plant ar-lein yng Ngogledd Cymru.

Rhwng 2024 a 2025, gwelodd Heddlu Gogledd Cymru gynnydd o 145% yn nifer yr atgyfeiriadau a dderbyniwyd gan yr adran, sy’n dangos y risgiau cynyddol y mae plant yn eu hwynebu ar-lein.

Dywedodd PC Amit Patel o OCAIT: “Mae pobl ifanc yn cael eu targedu a’u hecsbloetio ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol megis Snapchat, X, Telegram a Discord.

“Rydym yn parhau i ddatblygu ein dulliau er mwyn dal i fyny â datblygiadau technolegol er mwyn  dal troseddwyr.”

Dros  wyliau’r haf, mae’n debygol y bydd plant yn treulio mwy o amser ar-lein, a dyna pam mae’r tîm yn cynnal gweithgarwch diogelu dwys drwy gydol mis Awst.

Mae’r tîm yn annog rhieni a gofalwyr i siarad yn agored â phobl ifanc am beryglon sgwrsio â phobl nad ydynt wedi’u cyfarfod yn y byd go iawn, yn ogystal â dysgu sut i adnabod arwyddion bod rhywun yn eu paratoi am berthynas amhriodol ac i’w hecsbloetio.

Ychwanegodd PC Patel: “Ni ddylai neb byth deimlo dan bwysau i anfon delweddau noeth. Unwaith y byddant wedi’u rhannu, ni ellir eu cael nhw’n ôl, a gallent gael eu rhannu’n hawdd iawn heb ganiatâd.”

“Gall cael sgyrsiau gonest am ddiogelwch ar-lein a gosodiadau preifatrwydd helpu i atal sefyllfaoedd a allai fod yn beryglus ac yn llawn risg.”

Yn ogystal, mae’r tîm yn rhybuddio oedolion i ystyried eu gweithredoedd eu hunain ar y cyfryngau cymdeithasol.

Dywedodd Ditectif Arolygydd Sofiah Valentine: “Yn genedlaethol, rydym yn gweld cynnwys difrifol yn cael ei greu gan ddefnyddio delweddau meddalwedd ‘nudify’ a sgwrsfotiau deallusrwydd artiffisial (chatbots AI).

“Mae delweddau cam-drin plant yn rhywiol a grëir gan AI yn anghyfreithlon ac yn achosi niwed gwirioneddol.”

Mae delweddau meddalwedd ‘nudify’ yn cyfeirio at achosion lle mae delwedd ddiniwed yn cael ei thrawsnewid yn ddelwedd anweddus gan ddefnyddio AI, gan gynnwys dadwisgo plant yn ddigidol.

Canfu’r Internet Watch Foundation fod nifer y deunyddiau cam-drin plant yn rhywiol a gynhyrchwyd gan AI wedi cynyddu 26,000% yn ystod 2025.

Mae data gan UNICEF, INTERPOL ac ECPAT yn awgrymu bod lluniau o 1 o bob 25 o blant mewn rhai gwledydd wedi’u haddasu gan AI i greu delweddau anweddus.

Ychwanegodd Ditectif Arolygydd Valentine: “Mae lluniau diniwed o blant sy’n cael eu rhannu gyda bwriadau da yn cael eu defnyddio gan droseddwyr i greu delweddau anweddus.

 “Dyma hunllef waethaf unrhyw riant, ac mae’n rhywbeth na fyddai’r mwyafrif llethol ohonom byth yn dymuno i unrhyw blentyn ei brofi.”

“I’r rhai sy’n magu plant yn oes y cyfryngau cymdeithasol, mae preifatrwydd plant ar-lein yn bwnc sy’n cael ei drafod yn helaeth, ond fel swyddog sy’n gweithio ym maes diogelu plant, byddwn yn dadlau bod hyn yn mynd y tu hwnt i breifatrwydd ac yn fater o ddiogelwch.

 

“Mae hyn yn rhywbeth a all hefyd effeithio ar oedolion y mae eu lluniau o’u plentyndod wedi’u postio ar-lein. Anogir unrhyw un sydd â phryderon y gallent fod yn ddioddefwr y troseddau hyn i roi gwybod i’r heddlu.”

 

Mae’r Internet Watch Foundation a’r Asiantaeth Troseddu Genedlaethol yn cynghori rhieni a gofalwyr i:

  1. Cadwch gyfrifon cyfryngau cymdeithasol yn breifat a defnyddiwch restrau “ffrindiau agos” wrth rannu lluniau o’ch plant.
  2. Adolygwch negeseuon sy’n dangos wyneb, corff neu wisg ysgol plentyn.
  3. Gwiriwch beth sydd wedi’i bostio gan deulu a ffrindiau.
  4. Byddwch yn ymwybodol o’r hyn sy’n cael ei gyhoeddi gan ysgolion a chlybiau ac unrhyw ffurflenni caniatâd sydd wedi’u llofnodi.

Dylai unrhyw un sydd â phryderon am ecsbloetio rhywiol plant ar-lein riportio  unrhyw wybodaeth i'r heddlu, yn anhysbys trwy Crimestoppers neu gysylltu â sefydliad sy’n cynnig cymorth.

Gellir dod o hyd i gyngor i rieni ar sut i annog diogelwch ar-lein i blant yma: Lucy Faithfull Foundation - Preventing child sexual abuse  .

Gall pobl ifanc riportio unrhyw ddelweddau rhywiol ohonynt eu hunain ar y rhyngrwyd yn gyfrinachol  trwy Childline: Report Remove | Childline   

Mae canllawiau’r Asiantaeth Troseddu Genedlaethol ac Internet Watch Foundation i’w cael yma: AI Child Sexual Abuse Imagery: Parent Safety Guide

Rhannu

Llywio troedyn

Heddlu Gogledd Cymru

  • Cysylltu â ni
  • Gwasanaeth Sgwrsio
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Eich ardal chi
  • Gyrfaoedd
  • Amdanom ni
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Ystadegau a data
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Adborth

Partneriaid

  • Comisiynydd Heddlu a Throsedd
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2026​. Cedwir pob hawl.