Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae pedoffeil a anfonodd ddelweddau a fideos noeth at blentyn wedi cael ei garcharu.
Ymddangosodd Wayne Barry Williams o Ffordd Glan Môr, Bangor, yn Llys y Goron yr Wyddgrug heddiw, ddydd Iau 16 Ionawr, ar ôl cyfaddef iddo geisio cyfathrebu'n rhywiol hefo plentyn.
Ym mis Rhagfyr 2023, riportiodd grŵp helwyr pedoffiliaid, wnaeth greu proffil ffug plentyn ar-lein, bryderon i'r heddlu ar ôl derbyn cyswllt gan Williams.
Anfonodd y dyn 34 oed gais ffrind i broffil merch 13 oed a dechreuodd anfon neges at y cyfrif, gan ofyn am luniau rhywiol ac anfon delweddau a fideos noeth ohono'i hun.
Cafodd Williams ei arestio am y drosedd chwe diwrnod ar ôl cael ei ryddhau o'r carchar am drosedd flaenorol. Cafodd ei alw yn ôl i'r carchar am dorri amodau ei drwydded.
Heddiw, cafodd ei garcharu am ddwy flynedd a chwe mis. Fe'i gwnaed hefyd yn destun Gorchymyn Atal Niwed Rhywiol a barhaodd am gyfnod amhenodol.
Dywedodd PC Jamie Atkinson: "Mae Williams wedi profi ei fod yn fygythiad i ferched a genethod drwy droseddu'n syth ar ôl cael ei ryddhau o'r carchar.
"Mae'n lwcus y tro hwn bod y dioddefwr yn abwyd, neu fe allai'r canlyniadau fod wedi bod yn ddinistriol."
Ymgyrch Unite ydy ein hymateb ni i drais yn erbyn merched a genethod. Ceir mwy o wybodaeth yma – Ymgyrch Unite | Heddlu Gogledd Cymru